John Burningham | |
---|---|
Ganwyd | 27 Ebrill 1936 ![]() Farnham, Farnham ![]() |
Bu farw | 4 Ionawr 2019 ![]() o niwmonia ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, darlunydd, sgriptiwr, awdur plant ![]() |
Priod | Helen Oxenbury ![]() |
Gwobr/au | Medal Kate Greenaway, Medal Kate Greenaway ![]() |
Gwefan | http://johnburningham.com/biography/ ![]() |
Darlunydd ac awdur llyfrau plant Seisnig yw John Burningham (ganed 27 Ebrill 1936).[1]
Ganed Burningham yn Farnham, Surrey, Lloegr[2] yn fab i Charles a Jessie (Mackintosh) Burningham.[3] Ymunodd â'r Friends' Ambulance Unit ym 1953.[3] Yn 20 oed, mynychodd y Central School of Art a graddiodd ym 1959.[4] Wedi gweithio ar amryw o bosteri ar gyfer London Transport a British Transport a ffilmiau animeiddedig,[3] dechreuodd ei yrfa ym 1963 [5] gyda'r llyfr Borka: The Adventures of a Goose With No Feathers[6] a enillodd Fedal Kate Greenaway yr un flwyddyn.[2]
Priododd Burningham y darlunydd Helen Gillian Oxenbury ym 1964,[3] a parhaodd i ysgrifennu. Enillodd ei lyfr Mr. Gumpy's Outing Fedal Kate Greenaway Medal am yr eilwaith ym 1970. Mae wedi cyfrannu dros 60 o lyfrau i lenyddiaeth plant,[4] ac mae wedi derbyn nifer o wobrau,[7] gan gynnwys Deutscher Jugendliteraturpreis 1980. Seilwyd ffilm Granpa 1989 ar ei lyfr 1984 o'r un enw.