John Dawes | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Sidney John Dawes ![]() 29 Mehefin 1940 ![]() Aber-carn ![]() |
Bu farw | 16 Ebrill 2021 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb ![]() |
Taldra | 178 centimetr ![]() |
Pwysau | 82 cilogram ![]() |
Gwobr/au | OBE ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Loughborough Students RUFC, Clwb Rygbi Trecelyn, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig ![]() |
Safle | Canolwr ![]() |
Gwlad chwaraeon | Cymru ![]() |
Cyn-chwaraewr rygbi'r undeb oedd Sidney John Dawes (29 Mehefin 1940 – 16 Ebrill 2021).[1] Bu'n gapten Cymru a'r Llewod, ac yn ddiweddarach yn hyfforddwr Cymru a'r Llewod.[2]
Ganed ef yn Abercarn, a'i addysgu yn Ysgol Lewis, Pengam a Phrifysgol Aberystwyth, lle cymerodd radd mewn cemeg, a Choleg Loughborough.
Bu'n chwarae i Glwb Rygbi Cymry Llundain, ac enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Iwerddon yn 1964. Enillodd 22 o gapiau dros Gymru i gyd, gan weithredu fel capten mewn chwech. Ef oedd capten y tîm a enillodd yy Gamp Lawn yn 1971, tîm a ystyrir gan lawer fel y tîm gorau fu'n cynrychioli Cymru erioed.
Aeth ar daith gyda'r Llewod i Seland Newydd yn 1971 fel capten, gyda Carwyn James fel hyfforddwr. Enillwyd y gyfres o gwmau prawf yn erbyn y Crysau Duon; yr unig dro hyd yma i'r Llewod ennill cyfres yn Seland Newydd.
Wedi ymddeol o rygbi rhyngwladol, bu'n hyfforddwr Cymru rhwng 1974 a 1979. Roedd hwn yn un o'r cyfnodau mwyaf llwyddiannus yn hanes Cymru; enillwyd y bencampwriaeth bedair gwaith yn y pum mlynedd rhwng 1975 a 1979, yn cynnwys y Gamp Lawn ddwywaith, Bu'n hyfforddwr y Llweod ar eu taith i Seland Newydd yn 1977, ond ni fu mor llwyddiannus a thaith 1971.