John Fletcher

John Fletcher
GanwydTachwedd 1579, 1579, 20 Rhagfyr 1579 Edit this on Wikidata
Rye Edit this on Wikidata
Bu farwAwst 1625, 1625, 29 Awst 1625 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdramodydd, bardd, llenor Edit this on Wikidata
TadRichard Fletcher Edit this on Wikidata
PerthnasauGiles Fletcher, Giles Fletcher, Phineas Fletcher Edit this on Wikidata

Dramodydd o Loegr oedd John Fletcher (Rhagfyr 157929 Awst 1625) a flodeuai yn ystod Oes Iago. Mae'n nodedig am ei bartneriaeth lenyddol â Francis Beaumont a gynhyrchodd ryw ddeg o gomedïau a thrasiedïau yn y cyfnod 1607–13. Priodolir hefyd iddo gydweithio â William Shakespeare ar y ddrama hanes Henry VIII, y drasigomedi The Two Noble Kinsmen, a'r gwaith diflanedig Cardenio.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Cafodd John Fletcher ei fedyddio ar 20 Rhagfyr 1579 yn Rye, Sussex. Gweinidog y plwyf oedd ei dad, Richard Fletcher, a ddaliodd yn ddiweddarach swyddi caplan y Frenhines Elisabeth I, Deon Peterborough, ac esgob Bryste, Caerwrangon, a Llundain. Efe oedd y caplan a weinyddai dienyddiad Mari, brenhines yr Alban, wedi iddo ei chyhuddo yn ystod ei threial. Tua 11 oed, cafodd John ei dderbyn yn "bensiynwr" gan Goleg Corpus Christi, Caergrawnt. Dwyflwydd yn ddiweddarach, cafodd ei benodi yn glerc Beiblaidd, hynny yw myfyriwr a ddewiswyd i ddarllen llithoedd o'r Beibl yng nghapel y coleg.[1]

Bu farw Richard Fletcher yn 1596, a ni wyddys unrhyw fanylion am fywyd John nes 1607, pryd ymddangosai yn awdur un o'r molawdau yn argraffiad pedwarplyg y gomedi Volpone gan Ben Jonson. Un o'r cymeradwywyr eraill a gyfranodd at y cwarto hwnnw oedd Francis Beaumont. Mae'n debyg i'r ddau ohonynt ddechrau cydweithio yr adeg honno ar gyfer cwmnïau actio'r King's Revels Children (1607–09) a'r King's Men (1609–13) yn theatrau'r Globe a'r Blackfriars yn Llundain. Wedi i Beaumont ymddeol o'r diwydiant theatr yn 1613, parhaodd Fletcher yn brif ddramodydd y King's Men hyd at ddiwedd ei oes. Cydweithiodd gyda Philip Massinger, Nathan Field, ac William Rowley, yn ogystal ag ysgrifennu dramâu ar ben ei hunan. Credir iddo gydweithio â Shakespeare ar o leiaf tair drama – Henry VIII, The Two Noble Kinsmen, a Cardenio – yn y cyfnod 1613–14.

Bu farw John Fletcher ar 29 Awst 1625 yn 45 oed, o'r pla a laddodd ryw 40,000 o drigolion Llundain y flwyddyn honno.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) John Fletcher. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Awst 2019.