John Godber | |
---|---|
Ganwyd | 18 Mai 1956, 15 Mai 1956 Upton |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | academydd, llenor, dramodydd, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Gwobr Laurence Olivier, OBE |
Dramodydd o Loegr yw John Harry Godber OBE neu John Godber (ganwyd 18 Mai 1956), sy'n fwyaf adnabyddus am ei gomedïau arsylwadol fel Bouncers, Shakers a Teechers. Cafodd nifer o'i ddramâu eu cyfieithu i'r Gymraeg a'u llwyfannu yng Nghymru gan gwmnïau fel Theatr Bara Caws a Hwyl a Fflag. Yn ôl y Plays and Players Yearbook ym 1993, ei ddramâu ef gafodd eu llwyfannu'n fwyaf aml yn y DU, ar ôl Shakespeare ac Ayckbourn. Bu'n gyfarwyddwr creadigol i Theatre Royal Wakefield ers 2011.
Ganed Godber yn Upton, Swydd Efrog.[1] Hyfforddodd fel athro drama yng Ngholeg Bretton Hall, [1] oedd yn gysylltiedig â Phrifysgol Leeds, a daeth yn gyfarwyddwr artistig Cwmni Theatr Hull Truck ym 1984.[2]
Cyn mentro at ddramâu, bu'n bennaeth drama yn Ysgol Uwchradd Minsthorpe, yr ysgol y bu'n ef ei hun yn mynychu fel myfyriwr. Cyfrannodd benodau i'r cyfresi teledu Brookside a Grange Hill. [3] Yn 2005 enillodd ddwy Wobr Plant yr Academi Brydeinig am Oddsquad, [4] wedi'u hysgrifennu a'u cyfarwyddo ar leoliad yn Hull a'u dangos gan deledu plant y BBC. Perfformir ei ddramâu ar draws y byd, a Bouncers (1977) yw'r mwyaf poblogaidd.
Yn 2004 daeth yn athro gwadd ym Mhrifysgol Hope, Lerpwl. Bu hefyd yn athro drama ym Mhrifysgol Hull. Yn 2011, daeth Godber yn gyfarwyddwr creadigol Theatr y Royal Wakefield, lle y sefydlodd ei gwmni drama preswyl - y John Godber Company.
Mae arddull gynnar Godber yn dangos diddordeb mewn Mynegiadaeth Almaeneg, sef arddull economaidd a chorfforol. Mae ei arddull ddiweddarach yn fwy naturiolaidd ac yn adlewyrchu ei ddyrchafiad i'r dosbarth canol Ayckbourn-aidd. Cyfaddefodd efallai bod y "Godber newydd" yn fwy tebyg i awdur fel Tim Firth.
Mae Godber yn briod â'r awdures a'r actores Jane Thornton, sy'n cael ei hadnabod hefyd fel Jane Clifford a Jane Godber.