John Keegan | |
---|---|
Ganwyd | 15 Mai 1934 Clapham |
Bu farw | 2 Awst 2012 Kilmington |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, hanesydd milwrol, hanesydd, athro |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | The First World War |
Gwobr/au | OBE, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, honorary doctor of the University of Bath, Marchog Faglor, doctor honoris causa |
Hanesydd milwrol o Loegr oedd Syr John Desmond Patrick Keegan OBE FRSL (15 Mai 1934 – 2 Awst 2012). Bu'n awdur nifer o lyfrau poblogaidd ar hanes milwrol, yn olygydd amddiffyn The Daily Telegraph, ac yn ddarlithydd yn Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst am 25 mlynedd.[1]
Ganwyd yn Llundain, ac yn ystod y Blitz cafodd ei ddanfon i Taunton fel ifaciwî. Pan oedd yn 13 oed, cafodd twbercwlosis orthopedig ac o ganlyniad ni ymunodd â'r lluoedd arfog.[2] Astudiodd hanes yng Ngholeg Balliol, Prifysgol Rhydychen, ac yna gweithiodd yn llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Llundain. Penodwyd yn ddarlithydd hanes milwrol yn Sandhurst ym 1960 a darlithodd yno hyd 1985.[3]
Cyhoeddwyd ei lyfr mawr cyntaf, The Face of Battle, ym 1976. Roedd llawer o'i waith yn ymdrin â'r hen gwestiwn o achosion rhyfel, a pham bod dynion yn ymladd. Yn A History of Warfare, a gyhoeddwyd ym 1993, dadleuodd bod gwrthdaro milwrol yn draddodiad diwylliannol a bod rhyfel diarbed yn yr 20g yn eithriad i hyn.[2] Canolbwyntiodd Keegan ar brofiadau'r milwyr cyffredin yn ogystal â'r cadfridogion a'r arweinwyr.[4] Cafodd ei recriwtio i'r Daily Telegraph ym 1986 gan y golygydd Max Hastings, i fod yn olygydd amddiffyn y papur newydd hwnnw. Ym 1994, cynghorodd Keegan Bill Clinton, Arlywydd yr Unol Daleithiau, wrth i'r byd ddathlu 50 mlynedd ers D-Day.[1]
Ymysg ei safbwyntiau dadleuol oedd ei farn bod y Rhyfel Byd Cyntaf yn "ddiangen",[2] a'i feirniadaeth lym o'r damcaniaethwr milwrol Prwsiaidd Carl von Clausewitz.[5] Cyhuddwyd Keegan hefyd o fod yn rhy Eingl-ganolog, er enghraifft yn ei honiad taw glaniadau Normandi, nid Brwydr Stalingrad, oedd methiant mwyaf Hitler ar faes y gad.[2]
Derbynodd OBE ym 1991 a chafodd ei urddo'n farchog yn 2000. Cafodd dau fab a dwy ferch â'i wraig Susanne.[1][3]