John Luxmoore | |
---|---|
Ganwyd | 1756, 1766 Okehampton |
Bu farw | 1830, 31 Ionawr 1830 |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | Esgob Bryste, Esgob Henffordd, Esgob Llanelwy |
Priod | unknown Barnard |
Plant | John Henry Montagu Luxmoore, Charles Scott Luxmore |
Roedd John Luxmoore (1756 - 31 Ionawr, 1830) yn glerigwr o Sais a wasanaethodd fel Esgob Llanelwy.[1]
Does dim sicrwydd o'i ddyddiad geni ond fe'i bedyddiwyd yn Eglwys blwyf Okehampton, Swydd Dyfnaint ar 5 Ionawr, 1757.[2] Roedd yn blentyn i John Luxmoore, tirfeddiannwr a Mary (née Cunningham) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn ysgol Ottery St Mary a Choleg Eton. Yn Eton enillodd ysgoloriaeth i fynd ymlaen i Goleg y Brenin, Caergrawnt lle graddiodd BA ym 1780 ac MA ym 1783. Derbyniodd gradd Doethur mewn Diwinyddiaeth gan Archesgob Caergaint ym 1795.[1]
Wedi coleg penodwyd Luxmoore yn diwtor i Iarll Dalkeith (a daeth wedyn yn Ddug Buccleuch). O dan nawdd y dug, cafodd nifer o benodiadau eglwysig: daeth yn rheithor San Siôr y Merthyr, Sgwâr y Frenhines, Llundain ym 1782; yn brebend Caergaint ym 1793, yn ddeon Caerloyw ym 1799, ac yn rheithor Taynton, Swydd Gaerloyw, ym 1800. Ym 1806 cyfnewidiodd San Siôr y Merthyr am St Andrew's, Holborn. Ym 1807 daeth yn esgob Bryste ac ym 1808 trosglwyddwyd ef i esgobaeth Henffordd. Wedi marwolaeth William Cleaver ym 1815 penodwyd Luxmoore yn Esgob Llanelwy yn ei le. Parhaodd yn Llanelwy hyd ei farwolaeth.[3]
Ac eithrio cyhoeddi tri o'i bregethau, prin oedd cyfraniad Luxmoore i fywyd crefyddol Lloegr na Chymru. Mae o'n cael ei ystyried fel enghraifft bur o'r fath o ddyn oedd yn derbyn uchel swyddi eglwysig er mwyn ennill safle a chyfoeth personol a theuluol.[4] Er bod ganddo swydd esgob parhaodd i dderbyn cyflog o swyddi eglwysig eraill nad oedd yn fodlon eu hildio. Yn ogystal â chasglu swyddi eglwysig iddo'i hun roedd hefyd yn eu rhan ag aelodau eraill ei deulu. Fel Esgob Henffordd, penododd ei fab hynaf, Charles Scott Luxmoore yn rheithor Cradley, ficer Bromyard, a Phrebendari Henffordd; ac, fel Esgob Llanelwy, ychwanegodd Darowen, Ddeon Llanelwy a Changhellor Llanelwy.[5] Penododd mab arall iddo, John Henry Montague, yn rheithor Chwitffordd a churad parhaol Moreton on Lugg, rheithor Marchwiail, rheithor Llanarmon-yn-iâl, Prebendari Meifod a Phrebendari Llanelwy.[6] Penododd, ei nai John Lukmoore (arall) yn rheithor Llanymynech.
Ym 1786 priododd Luxmoore ag Elizabeth Barnard, merch Y Parchedig Thomas Barnard [7] a nith Edward Barnard, profost Eton. Bu i'r cwpl deulu mawr.[1]
Bu farw ym Mhalas yr Esgob Llanelwy yn 74 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion mewn claddgell yng Nghapel y Cyfieithwyr yn adain ogleddol yr Eglwys Gadeiriol.[8] Ar un adeg roedd yr adain ogleddol yn cael ei ddominyddu gan gofeb enfawr i’r Esgob a’i feibion. Cafodd y gofeb ei ddatgymalu a'i ddisodli gan gofeb garreg syml i'r Esgob.[9]