John Osmond | |
---|---|
Ganwyd | 1946 ![]() Y Fenni ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, llenor ![]() |
Awdur, newyddiadurwr a chynhyrchydd teledu o Gymru yw John Osmond (ganwyd 1946). Roedd yn gyfarwyddwr y felin drafod Sefydliad Materion Cymreig rhwng 1996 a Mai 2013. Mae wedi cyfrannu tuag at nifer o lyfrau ar wleidyddiaeth a diwylliant Cymru a throsglwyddiad cyfrifoldebau gwleidyddol i’r Senedd yng Nghaerdydd. Yn y gorffennol bu Osmond yn newyddiadurwr a chynhyrchydd rhaglenni teledu.
Cafodd Osmond ei eni yn Y Fenni, Sir Fynwy yn 1946. Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg King Henry VIII cyn cofrestru i ddarllen gradd BA yn Athroniaeth a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Bryste. Cwbwlhaodd ei gradd yn yr 1960au. Yn 2004 rhoddi MA anrhydeddus i Osmond gan Prifysgol Cymru.
Dechreuodd gwaith gyda'r Yorkshire Post, wedi iddo raddio, fel gohebydd. Yn yr 1970au cymerodd swydd fel gohebydd materion Cymreig ar gyfer papur newydd y Western Mail. Rhwng 1980 a 1982 bu Osmond yn olygydd y cylchgrawn materion cyfoes Cymreig ARCADE – Wales Fortnightly. Cymerodd rol gyda HTV yn yr 1980au fel cynhyrchydd rhaglenni, a roedd Osmond yn un o'r rhai a gychwynnodd y rhaglen materion cyfoes Wales This Week. Yn cynnwys ei waith gyda HTV, bu Osmond yn gynhyrchydd ar gyfer y rhaglen teledu Sianel 4 The Divided Kingdom. Ysgrifennodd llyfr i cyd fynd gyda'r rhaglen yn 1988. Cymerodd swydd Dirprwy Golygydd y papur newydd Wales on Sunday rhwng 1988 a 1990.
Yn yr 1990au ffurfiodd gwmni teledu Agenda Productions, a gynhyrchodd nifer o raglenni teledu ar gyfer y BBC, HTV, Sianel 4, S4C ac STV.
Cychwynodd ei swydd fel cyfarwyddwr Y Sefydliad Materion Cymreig yn 1996. Yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007, ymgeisiodd Osmond yn etholaeth Preseli Penfro fel cynrychiolydd Plaid Cymru. Ond cynrychiolydd y Ceidwadwyr, Paul Davies, enillodd y sedd.
Heddiw mae Osmond yn dal nifer o swyddi: