John Penry | |
---|---|
Ganwyd | 1563 Cefn Brith |
Bu farw | 29 Mai 1593 Afon Tafwys |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, pregethwr |
Merthyr Protestannaidd o Langamarch, Brycheiniog (Powys), oedd John Penry (1559 - 29 Mai 1593).
Roedd ei gartref yng Nghefn-brith, Powys. Cafodd ei addysg yn Peterhouse, Caergrawnt, lle y daeth dan ddylanwad Piwritaniaeth.
Roedd yn feirniadol iawn o'r eglwys oherwydd ei diffyg gofal bugeiliol. Ysgrifennodd nifer o lyfrau yn Saesneg yn beirniadu'r Eglwys yng Nghymru ac yn gofyn am fwy o bregethu trwy gyfrwng y Gymraeg. Bu yn cynnal gwasg argraffu yn Lloegr am gyfnod, gwasg a argraffodd nifer o bamffledi yn beirniadu'r esgobion. Fe'i camgyhuddwyd o fod yn awdur y Marprelate Tracts ac o fod yn anheyrngar i frenin Lloegr. Cafodd ei grogi ar lan Afon Tafwys, 29 Mai 1593.[1]