John Philpot Curran | |
---|---|
Portread o John Philpot Curran gan Thomas Lawrence (1799). | |
Ganwyd | 24 Gorffennaf 1750 Newmarket |
Bu farw | 14 Hydref 1817 Brompton |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfreithegwr, gwleidydd, bardd, bargyfreithiwr |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Iwerddon, Aelod o Gyfrin Gyngor yr Iwerddon |
Plaid Wleidyddol | Irish Patriot Party |
Tad | James Curran |
Mam | Sarah Philpot |
Priod | Sarah Creagh |
Plant | Amelia Curran, Sarah Curran, Richard Creagh Curran, Emily Curran, Eliza Odella Curran, Gertrude Sarah Curran, James Curran, John Bartholomew Curran, William Henry Curran, John Philpot Curran, Henry Grattan Curran |
Gwleidydd, cyfreithiwr, ac areithydd o Iwerddon oedd John Philpot Curran (24 Gorffennaf 1750 – 14 Hydref 1817).[1]
Ganed ef yn Newmarket, Swydd Corc, yn Nheyrnas Iwerddon. Efrydydd diog ydoedd yn ei ieuenctid, ond hyfforddodd yn y gyfraith a chafodd ei alw i'r Bar ym 1775. Parodd ei arabedd a'i huodledd iddo gael ei gyflogi at rai o achosion cyfreithiol hynotaf y dydd. Ym 1783, etholwyd ef i'r senedd Wyddelig dros Kilbeggan. Daeth yn gefnogwr i Henry Grattan, ond ni phrofodd ei huodledd mor effeithiol ar lawr y senedd ag yn llysoedd y gyfraith. Bu ei dafod miniog yn foddion i'w ddwyn i aml helynt, ac ymladdodd bum gornest heb niwed.
Er yn Brotestant, yr oedd ganddo, fel eraill o wladgarwyr Gwyddelig, gydymdeimlad mawr â'r Catholigion. Torodd y gwrthryfel Gwyddelig allan ym 1798, ond aflwyddodd. Yna, erlynwyd yr arweinwyr, ond amddiffynnwyd hwy gyda'r fath allu, nerth, a phenderfyniad gan Curran, fel y gwnaed ef yn anwyl-ddyn gan ei gyd-ynyswyr, ac y sicrhawyd iddo anrhydedd mawr. Bu farw yn Llundain yn 67 oed, yn un o Wyddelod enwocaf ei oes.