John Redmond | |
---|---|
Ganwyd | 1 Medi 1856 Swydd Wexford |
Bu farw | 6 Mawrth 1918 Dulyn |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, bargyfreithiwr |
Swydd | Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Y Blaid Seneddol Wyddelig |
Tad | William Archer Redmond |
Plant | William Redmond |
Gwleidydd Gwyddelig oedd John Edward Redmond (Gwyddeleg: Seán Éamonn Mac Réamoinn) (1 Medi 1856 – 6 Mawrth 1918) .
Ganed Redmond yn ninas Dulyn a magwyd ef yn Swydd Wexford. Roedd ei dad, William Archer Redmond, yn Aelod Seneddol dros Wexford ac yn gefnogwr mudiad ymreolaeth Isaac Butt. Aeth Redwood i Lundain i weithredu fel clerc i’w dad, a daeth yn un o gefnogwyr Charles Stewart Parnell. Wedi marwolaeth ei dad yn 1880 daeth yn Aelod Seneddol dros New Ross. Carcharwyd ef am bump wythnos am araith a draddododd yn 1888.
Pan rannwyd y Blaid Seneddol Wyddelig oherwydd perthynas Parnell a Katharine O'Shea,, arhosodd Redmond yn deyrngar i Parnell, ac wedi marwolaeth Parnell yn 1891 daeth yn arweinydd y rhan o’r blaid oedd wedi cefnogi Parnell.
Pan ail-unwyd y ddwy ran o’r blaid yn 1900, daeth Redmond yn arweinydd y Blaid Seneddol Wyddelig, swydd a ddaliodd hyd 1918. Ei nôd oedd ennill ymreolaeth i Iwerddon o fewn y Deyrnas Unedig. Erbyn 1910 roedd y Blaid Seneddol Wyddelig mewn sefyllfa gref yn Nhy'r Cyffredin, gyda'r Rhyddfrydwyr yn dibynnu ar eu cefnogaeth i barhau mewn grym. Yn 1912 cyflwynwyd mesur arall i roi hunanlywodraeth i Iwerddon o fewn y Deyrnas Gyfunol, ond gwrthwynebwyd hyn yn gryf gan y Protestaniaid yn y gogledd-ddwyrain. Yn 1914, pasiwyd Mesur Ymreolaeth Iwerddon, ond gyda’i weithrediad yn cael ei ohirio hyd ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cefnogodd Redmond ymgyrch y Deyrnas Unedig yn y rhyfel, ond newidiodd yr awyrgylch yn Iwerddon yn dilyn Gwrthryfel y Pasg yn 1916, a saethu arweinwyr y gwrthryfel gan lwwodraeth y Deyrnas Unedig. Lladdwyd brawd Redmond, Willie, yn y rhyfel yn 1917, ac enillwyd ei sedd wag yn Nhy’r Cyffredin gan Eamon de Valera dros Sinn Féin. Bu Redmond farw yn Llundain ym Mawrth 1918 yn dilyn llawdriniaeth.
Yn etholiad cyffredinol Rhagfyr 1918, collodd y Blaid Seneddol Wyddelig eu holl seddau bron i Sinn Féin, a oedd o blaid annibyniaeth yn hytrach nag ymreolaeth. Yn Ionawr 1919 cyfarfu’r Dáil Cyntaf a chyhoeddi annibyniaeth Iwerddon.