Y Gwir Anrhydeddus Syr John Redwood AS | |
| |
Cyfnod yn y swydd 27 Mai 1993 – 26 Mehefin 1995 | |
Rhagflaenydd | David Hunt |
---|---|
Olynydd | David Hunt |
Geni | 15 Mehefin 1951 Dover, Caint |
Etholaeth | Wokingham |
Plaid wleidyddol | Ceidwadol |
Gwleidydd Seisnig Ceidwadol yw Syr John Alan Redwood (ganwyd 15 Mehefin 1951). Mi oedd e'n cynrychioli etholaeth Wokingham dros y Blaid Geidwadol o 1987 tan 2024. Daliodd swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru am ddwy flynedd o 1993 tan 1995, pan ddaeth yn enwog am fud-ganu Hen Wlad fy Nhadau yng Nghynhadledd y Torïaid Cymreig.
Roedd John Redwood yn ymfalchio ei fod wedi tanwario ar y gyllideb Gymreig, gan anfon dros gan miliwn o bunnoedd yn ôl i'r Trysorlys yn Llundain. Ef fu'n gyfrifol am Ddeddf Llywodraeth Leol 1994 pan chwalwyd yr wyth cyngor sir a'r 37 cyngor dosbarth yn groes i farn bron pob Aelod Seneddol Cymru. Roedd y 22 cyngor unedol newydd yn rhy fach i fod yn strategol ac yn rhy fawr i fod yn lleol.Trwy lwytho'r pwyllgor gydag Aelodau Seneddol Seisnig yn unig y llwyddwyd i gael y Ddeddf drwy'r senedd. Gwnaethpwyd yr un peth gyda Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.[1]
Yn 2007, arddangosodd y BBC yr hen luniau o John Redwood yn canu ym 1993, ond wedi hynny cyfaddefant bod y lluniau'n amherthnasol i'r rhaglen. Ysgrifennodd Redwood mewn llythyr at The Daily Telegraph: "I am the only politician who has regularly been given eternal youth by the BBC in this way."[2]
Cafodd Redwood ei urddo'n marchog yng ngwobrau anrhydeddau’r flwyddyn newydd 2019.[3] Dywedwyd bod Theresa May wedi rhoi’r farchog i Redwood er mwyn cael cefnogaeth i’w bargen Brexit[4]
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: William van Straubenzee |
Aelod Seneddol dros Wokingham 1987 – presennol |
Olynydd: deiliad |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: David Hunt |
Ysgrifennydd Gwladol Cymru 27 Mai 1993 – 26 Mehefin 1995 |
Olynydd: David Hunt |