John Strachan

John Strachan
Ganwyd1862 Edit this on Wikidata
Keith Edit this on Wikidata
Bu farw1907 Edit this on Wikidata
Galwedigaethieithydd, cyfieithydd Edit this on Wikidata

Ysgolhaig o'r Alban oedd John Strachan (18621907). Fel ieithydd ymddiddorai yn yr ieithoedd Celtaidd, Sansgrit a Hen Roeg.

Ganed Strachan yn nhref fechan Keith yn Ucheldiroedd yr Alban. Astudiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt a Jena. Daeth yn athro yng Ngholeg Owens ac ym Mhrifysgol Manceinion.[1]

Sefydlodd y cofnodolyn Ériu ar y cyd â'r athro Kuno Meyer. Ym maes astudiaethau Cymraeg Canol, roedd ei An Introduction to Early Welsh yn gyfrol arloesol am y cyfnod; fe'i cyhoeddwyd yn 1909, dwy flynedd ar ôl ei farwolaeth.

Cyhoeddiadau

[golygu | golygu cod]
  • (golygwyd gyda Whitley Stokes) Thesaurus Palaeohibernicus. Detholiad o destunau Hen Wyddeleg
  • Old Irish Paradigms and Selections from the Old Irish Glosses (1904–05). Cafwyd argraffiad newydd wedi'i olygu gan Osborn Bergin.
  • An Introduction to Early Welsh (Gwasg Prifysgol Manceinion, 1909). Astudiaeth arloesol.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Bernhard Maier. Dictionary of Celtic Religion and Culture (Gwasg Boydell, 1997), tud. 254.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]