John Trevor | |
---|---|
Ganwyd | 1637 Y Waun |
Bu farw | 20 Mai 1717 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | barnwr, cyfreithiwr, gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Iwerddon, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Gyfrin Gyngor yr Iwerddon, Member of the 1661-79 Parliament, Member of the 1679 Parliament, Member of the 1680-81 Parliament, Member of the 1685-87 Parliament, Member of the 1681 Parliament, Member of the 1689-90 Parliament, Member of the 1690-95 Parliament, Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, Llefarydd Tŷ'r Cyffredin |
Plaid Wleidyddol | Tori |
Tad | John Trevor |
Mam | Margaret Jeffreys |
Priod | Jane Mostyn |
Plant | Edward Trevor, Arthur Trevor, John Trevor, Anne Trevor, Tudor Trevor |
Gwobr/au | marchog |
Gwleidydd, barnwr a chyfreithiwr o Gymru oedd Syr John Trevor (c. 1637 – 20 Mai 1717) a ddyrchafwyd yn Llefarydd Tŷ'r Cyffredin yn 1685 hyd at 1687 ac eilwaith rhwng 1689 hyd at 1695. Gwasanaethodd hefyd fel Meistr y Rholiau rhwng 1685 a 1689 ac eilwaith rhwng 1693 a 1717. Daeth ei ail gyfnod fel llefarydd i ben pan ddiswyddwyd ef am dderbyn cil-dwrn o 1,000 gini ar 16 Mawrth 1695. Ef oedd y Llefarydd diwethaf i gael ei ddiswyddo tan 2009 pan ddiswyddwyd y barwn Michael Martin. Yn ôl Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, "bu farw yn Llundain gan adael ar ei ôl enw da oblegid ei wybodaeth o'r gyfraith a'i ddi-dueddrwydd fel barnwr".
Roedd ei dad, a oedd â'r un enw, yn fab i Edward Trevor (c. 1580–1642) a'i fam oedd Margaret (née Jeffreys); John oedd yr ail fab. Roeddent yn byw yn hen gartref y teulu, sef Bryncynallt (Brynkinalt), ym mhlwyf y Waun, Sir Ddinbych.[1]
Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Rhuthun ac wedi gadael aeth i weithio at ei ewyrth, Arthur Trevor.[2] Gyda chymorth George Jeffreys, dringodd yn ei yrfa nes y cafodd ei benodi'n Gwnsel i Siarl II, brenin Lloegr a'r Alban.[2]
Dyrchafwyd ef yn Llefarydd Tŷ'r Cyffredin yn 1685 hyd at 1687 pan orseddwyd William III o Loegr. Ond gwnaed ef yn Llefarydd am yr ail dro rhwng 1689 a 1695. Gwasanaethodd hefyd fel Meistr y Rholiau rhwng 1685 a 1689 ac eto rhwng 1693 a 1717. Ar 6 Gorffennaf 1688 daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor a dewiswyd ef hefyd yn gyd-gwnstabl Castell y Fflint yn 1687 ac yn custos rotulorum Sir y Fflint yn Rhagfyr 1688.[3]
Oherwydd fod ganddo lygaid croes, roedd ambell Aelod Seneddol ar goll, gan na wyddent ar bwy yr edrychai, na chyda pwy y siaradai, ambell dro. Cymerwyd mantais o hyn gan rai i siarad heb wahoddiad.[4]
Ar 7 Mawrth 1695 cafwyd ef yn euog o dderbyn cil-dwrn o 1,000 gini (£1,050; gwerth £1.6 yn 2009[5]) gan Gyngor Dinas Llundain ar yr amod ei fod yn gwthio deddf drwy'r Tŷ Cyffredin.[2] Daeth y llwgrwobrwyo i'r amlwg a diarddelwyd ef o'r Tŷ ar 16 Mawrth; plediodd iddo fod yn wael ei iechyd. Ni ofynwyd iddo ad-dalu'r cil-dwrn, fodd bynnag a chadwodd ei swydd fel cyfreithiwr nes iddo farw yn 79, neu efallai 80 oed![2][2][6] Derbyniodd y cil-dwrn ychydig wythnosau cyn iddo gael ei ddewis yn arglwydd-ganghellor, felly tynnwyd y cynnig yn ôl (Luttrell,[7].
|publisher=
(help)