Josiah Wedgwood | |
---|---|
Ganwyd | 12 Gorffennaf 1730 Burslem |
Bu farw | 3 Ionawr 1795 Etruria |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Galwedigaeth | crochenydd, entrepreneur, diddymwr caethwasiaeth |
Blodeuodd | 18 g |
Tad | Thomas Wedgwood III |
Mam | Mary Stringer |
Priod | Sarah Wedgwood |
Plant | Josiah Wedgwood II, Thomas Wedgwood, John Wedgwood, Susannah Wedgwood, Sarah Wedgwood, Richard Wedgwood, Catherine Wedgwood, Mary Ann Wedgwood, Paul Foley |
Perthnasau | Ursula Mommens |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Crochenydd a dyn busnes o Loegr oedd Josiah Wedgwood (12 Gorffennaf 1730 – 3 Ionawr 1795).[1] Sefydlodd gwmni Wedgwood. Datblygodd well cyrff crochenwaith trwy broses hir a systematig o arbrofi, ac ef oedd yr arweinydd wrth ddiwydiannu cynhyrchu crochenwaith Ewropeaidd (roedd y Tsieineaid wedi cyflawni hyn ers sbel).[2] Roedd brwdfrydedd clasurol adnewyddedig diwedd y 1760au a dechrau'r 1770au o bwys mawr i'w hyrwyddiad gwerthu.[3] Roedd galw mawr am ei nwyddau drud gan y dosbarthiadau uwch, tra defnyddiodd effeithiau efelychu i farchnata setiau rhatach i weddill y gymdeithas.[4]
Yn ddiddymwr amlwg yn ymladd caethwasiaeth, mae Wedgwood yn cael ei gofio hefyd am ei fedal gwrth-gaethwasiaeth. Roedd yn aelod o deulu Darwin - Wedgwood, ac roedd yn daid i Charles ac Emma Darwin.