José Agustín | |
---|---|
Ganwyd | José Agustín Ramírez Gómez 19 Awst 1944 Acapulco |
Bu farw | 16 Ionawr 2024 Cuautla |
Dinasyddiaeth | Mecsico |
Galwedigaeth | llenor, dramodydd, newyddiadurwr, cyfarwyddwr ffilm |
Priod | Margarita Dalton |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Genedlaethol y Celfyddydau a Gwyddorau, Gwobr Lenyddiaeth Mazatlan |
Nofelydd, ysgrifwr, a sgriptiwr Mecsicanaidd yn yr iaith Sbaeneg yw José Agustín Ramírez Gómez (19 Awst 1944 – 16 Ionawr 2024) a oedd yn un o brif lenorion mudiad La Onda yn niwylliant Mecsico.
Ganwyd yn Acapulco, Guerrero, ac astudiodd yn Universidad Nacional Autónoma de México (UNAM) ac yn Centro Mexicano de Escritores.[1]
Ymhlith ei nofelau mae La tumba (1964), De perfil (1966), Se está haciendo tarde (final en laguna) (1973), Círculo vicioso (1974), Ciudades desiertas (1982), a Cerca del fuego (1986). Mae ei ffuglen yn adlewyrchu gwerthoedd, neu wrthwerthoedd, gwrthddiwylliant y 1960au trwy amharch tuag at yr awdurdodau ac uchel ddiwylliant Mecsico, ac yn nodweddiadol o lenyddiaeth La Onda yn ei defnydd o iaith y ddinas a themâu trais, dirywiad trefol, cerddoriaeth roc, cyffuriau, a diwylliant y stryd. Ymhlith ei lyfrau eraill mae'r hunangofiant El rock de la cárcel (1985) a'r casgliad o ysgrifau La nueva música clásica (1985). Cyhoeddodd El viejo y el mar, cyfieithiad o The Old Man and the Sea gan Ernest Hemingway, yn 1994.[1]
Mae ei waith diweddarach yn tynnu ar seicoleg Jung i ddadansoddi'r argyfyngau gwleidyddol ym Mecsico.[2] Mae hefyd wedi ysgrifennu nifer o sgriptiau ar gyfer teledu a'r sinema, a thair chyfrol am hanes cyfoes Mecsico: Tragicomedia mexicana 1: La vida en Mexico de 1940 a 1970 (1990), Tragicomedia mexicana 2: La vida en Mexico de 1970 a 1982 (1992), a Tragicomedia mexicana 3: La Vida en mexico de 1982 a 1994 (1998).[3]