José María Arguedas | |
---|---|
Ganwyd | José María Arguedas Altamirano 18 Ionawr 1911 Andahuaylas |
Bu farw | 2 Rhagfyr 1969 o saeth i'r pen Lima |
Dinasyddiaeth | Periw |
Alma mater | |
Galwedigaeth | anthropolegydd, bardd, nofelydd, cyfieithydd, ethnolegydd, awdur storiau byrion, indigenist, awdur ysgrifau, academydd, newyddiadurwr, gwleidydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Deep Rivers, Todas las Sangres, The Fox From Up Above and the Fox From Down Below, El Sexto |
Arddull | barddoniaeth |
Priod | Celia Bustamante, Sybila Arredondo |
Perthnasau | Elisa Fuenzalida |
Nofelydd, awdur straeon byrion, ac ethnolegydd Periwaidd oedd José María Arguedas (18 Ionawr 1911 – 28 Tachwedd 1969).
Ganwyd yn Andahuaylas yn ne Periw, yn fab i farnwr ar grwydr. Bu farw ei fam pan oedd yn 3 oed, a chafodd ei fagu am gyfnod gan y bobl frodorol, a dysgodd yr iaith Quechua cyn iddo ddysgu'r Sbaeneg. Yn ei ieuenctid, astudiodd gerddoriaeth a thraddodiadau y Quechua yn ogystal â diwylliant Sbaeneg Periw.[1]
Astudiodd Arguedas ym Mhrifysgol San Marcos yn Lima, a gweithiodd yn y swyddfa bost o 1932 i 1937. Darlithiodd yn y Brifysgol Genedlaethol yn Sicuani o 1939 i 1941, a daliodd sawl swydd weinyddol cyn iddo ddechrau addysgu diwylliant Periw ym Mhrifysgol San Marcos yn 1959. Gwasanaethodd hefyd yn gyfarwyddwr y Tŷ Diwylliant o 1963 i 1964 ac yn gyfarwyddwr yr Amgueddfa Hanes Genedlaethol o 1964 i 1969.[1]
Ymhlith ei weithiau mae'r casgliad o straeon In Agua (1935) a'r nofelau Yawar fiesta (1941), Los ríos profundos (1958), El sexto (1961), a Todas las sangres (1964). Bu farw yn Lima yn 58 oed drwy hunanladdiad.[1]