José Pedro Díaz | |
---|---|
Ganwyd | 12 Ionawr 1921 ![]() Montevideo ![]() |
Bu farw | 3 Gorffennaf 2006, 2 Gorffennaf 2006 ![]() Montevideo ![]() |
Dinasyddiaeth | Wrwgwái ![]() |
Galwedigaeth | llenor, athro cadeiriol, awdur ysgrifau, beirniad llenyddol, bardd ![]() |
Priod | Amanda Berenguer ![]() |
Bardd, nofelydd, ysgrifwr, a beirniad llenyddol o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd José Pedro Díaz (12 Ionawr 1921 – 3 Gorffennaf 2006). Roedd efe a'i wraig, y bardd Amanda Berenguer, yn aelodau La Generación del 45, mudiad o lenorion o Wrwgwái a flodeuai yng nghanol yr 20g. Yn ogystal â'i farddoniaeth a'i nofelau, mae Díaz yn nodedig am ei feirniadaeth sy'n ymdrin â llên Ffrainc.
Priodasant Díaz a Berenguer yn nechrau eu hugeiniau, a thra'n byw gyda'i theulu hi fe wnaethon nhw sefydlu gwasg La Galatea yn y garej. Derbyniodd Díaz rodd ariannol yn 1950 ac aeth i Wlad Belg fel swyddog diwylliannol anrhydeddus, a thros y ddwy flynedd olynol daeth y ddau ohonynt yn gyfarwydd â ffigurau a mudiadau llenyddol Ewrop.[1]
Yn ogystal â'i feriniadaeth sy'n ymdrin â llên ei famwlad, gan gynnwys astudiaethau ganddo o Felisberto Hernández a Delmira Agustini, enillodd Díaz enw fel un o'r beirniaid amlycaf yn America Ladin i ysgrifennu am lenorion Ffrengig, megis Honoré de Balzac ac André Gide. Cyhoeddodd nifer o'i ysgrifau yn y cylchgrawn wythnosol Correo de los viernes. Ysgrifennodd hefyd astudiaethau beirniadol o waith y bardd Sbaenaidd Gustavo Adolfo Bécquer, a gesglid mewn cyfrol a gyhoeddwyd yn 1953.[2]
Fel awdur ffuglen, cydnabyddir Díaz am ei nofelau Los fuegos de San Telmo (1964), sy'n ymwneud ag hanes yr Wrwgwaiaid o dras Eidalaidd, a Partes de naufragios (1969), stori am fywyd ym Montevideo yn y 1930au a'r 1940au.[2]