José de Alencar | |
---|---|
Ffugenw | Erasmo |
Ganwyd | 1 Mai 1829 Fortaleza |
Bu farw | 12 Rhagfyr 1877 Rio de Janeiro |
Dinasyddiaeth | Brasil |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, gwleidydd, cyfreithiwr, beirniad llenyddol, llenor, nofelydd |
Swydd | Minister of Justice of Brazil |
Adnabyddus am | The Guarani, Iracema, Ubirajara |
Arddull | dramayddiaeth, cronicl, hunangofiant |
Plaid Wleidyddol | Conservative Party |
Mudiad | Rhamantiaeth |
Tad | José Martiniano Pereira de Alencar |
Priod | Georgiana Augusta Cochrane |
Plant | Mário de Alencar, Augusto Cochrane de Alencar |
llofnod | |
Nofelydd, newyddiadurwr, a gwleidydd o Frasil oedd José Martiniano de Alencar (1 Mai 1829 – 12 Rhagfyr 1877) sydd yn nodedig am arloesi Indianismo yn llên Brasil. Ysgrifennodd hefyd ddramâu, ysgrifau, a barddoniaeth, ac mae ei weithiau llenyddol yn cyflwyno portread cyflawn o fywyd Brasil yng nghanol y 19g ac yn gyfraniad pwysig at hunaniaeth ddiwylliannol y wlad.
Ganed yn Fortaleza, prifddinas talaith Ceará, yng ngogledd-ddwyrain Ymerodraeth Brasil, i deulu a oedd yn weithgar yng ngwrthryfel Pernambuco (1817). Astudiodd y gyfraith yn São Paulo ac yn Recife cyn iddo ymsefydlu yn Rio de Janeiro i weithio i'r wasg. Yn 1856 cyhoeddodd ei ddwy gyfrol gyntaf, y nofel Cinco Minutos a'r casgliad o erthyglau Cartas sobre "A Confederação dos Tamoios" sydd yn ymdrin â'r gerdd honno gan Domingos José Gonçalves de Magalhães.[1]
Dygwyd mudiad Indianismo gan ei nofel arloesol O Guarani (1857): dyma'r esiampl gyntaf yn llên America Ladin o bortread nodweddiadol Ramantaidd o fywyd brodorion yr Amerig, ac yn cynnwys yr enwau brodorol am blanhigion ac anifeiliaid a disgrifiadau sentimental o'u traddodiadau. Ymhelaethodd Alencar ar y thema honno mewn sawl nofel arall ac yn ei arwrgerdd Os Filhos de Tupã, a ysgrifennwyd yn 1863 ond nas cyhoeddid nes y 1910au. Ymhlith ei nofelau eraill mae Senhora (1875) ac Encarnação (1893), y ddwy wedi eu lleoli yn y ddinas; y nofelau gwledig O Gaúcho (1870) ac O Sertanejo (1875); a'r nofelau hanesyddol As Minas de Prata (1862/1865–1866), Alfarrábios (1873), ac A Guerra dos Mascates (1873–1874). Ym myd theatr Rio de Janeiro, ysgrifennodd un ddrama hanesyddol, O Jesuíta (1875), a sawl comedi a drama.[1]
Gwasanaethodd Alencar yn gynrychiolydd dros Ceará yn Siambr y Dirprwyon, a chafodd swydd gweinidog cyfiawnder yn llywodraeth Brasil o 1868 i 1870.[2] Un o wrthwynebwyr yr Ymerawdwr Pedro II oedd Alencar, a fe'i trafodai yn feirniadol dan y ffugenw Erasmo, ar ffurf Ao Imperador: Cartas Políticas de Erasmo (1865) ac Ao Emperador: Novas Cartas Políticas de Erasmo (1866).[1]
Teithiodd Alencar i Ewrop yn 1877 i geisio gwella'i afiechyd. Bu farw o dwbercwlosis yn Rio de Janeiro yn 48 oed. Cyhoeddwyd ei hunangofiant, Como e Porque Sou Romancista (1893), dwy flynedd ar hugain wedi ei farwolaeth.[1]