Juan Zorrilla de San Martín | |
---|---|
Ganwyd | 28 Rhagfyr 1855 Montevideo |
Bu farw | 3 Tachwedd 1931 Montevideo |
Dinasyddiaeth | Wrwgwái |
Galwedigaeth | llenor, bardd, diplomydd, gwleidydd, barnwr, newyddiadurwr |
Swydd | Member of the Chamber of Representatives of Uruguay, llysgennad |
Cyflogwr | |
Arddull | barddoniaeth |
Plaid Wleidyddol | Civic Union |
Plant | José Luis Zorrilla de San Martín |
Gwobr/au | Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Uwch Croes Urdd Siarl III |
llofnod | |
Bardd Sbaeneg a diplomydd o Wrwgwái oedd Juan Zorrilla de San Martín (28 Rhagfyr 1855 – 3 Tachwedd 1931) sy'n nodedig am ei arwrgerddi "Tabaré" (1886), a ystyrir yn gerdd genedlaethol yr Wrwgwaiaid, a La leyenda patria (1879).
Ganwyd ym Montevideo a chafodd ei addysg mewn ysgolion yr Iesuwyr yn Santiago de Chile, Santa Fé yn yr Ariannin, a Montevideo.
Cyhoeddodd ei waith cyntaf, Notas de un himno, yn 1876. Mae'r gwaith hwnnw yn ymdrin â themâu tristwch a gwladgarwch, ac yn dangos dylanwad y bardd Rhamantaidd o Sbaenwr, Gustavo Adolfo Becquer. Sefydlodd Zorrilla de San Martín gylchgrawn Catholig, El bien público, yn 1878.
Yn 1879 cyhoeddodd ei arwrgerdd wladgarol La leyenda patria, sy'n traddodi hanes y Tri Dwyreiniad ar Ddeg ar Hugain a wrthryfelasant yn erbyn Ymerodraeth Brasil yn 1825. Cyfansoddodd arwrgerdd hanesyddol arall, Tabaré, sy'n canu chwedl am serch y bachgen Tabaré, un o frodorion y Banda Oriental, a'r Sbaenes Blanca. Ysgrifennodd y gerdd yn 1886, a chyhoeddwyd yn 1888. Cafodd ei golygu ganddo sawl gwaith cyn iddo gyhoeddi'r argraffiad terfynol yn 1926.[1]
Gwasanaethodd mewn sawl swydd lywodraethol yn ystod ei oes, gan gynnwys llysgennad Wrwgwái i Ffrainc, Portiwgal, Sbaen, a'r Babaeth. Bu farw ym Montevideo yn 75 oed.