Julia Franck | |
---|---|
Ganwyd | 20 Chwefror 1970 Dwyrain Berlin, Berlin |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | llenor, rhyddieithwr |
Adnabyddus am | Lagerfeuer, Die Mittagsfrau |
Gwobr/au | Ysgoloriaeth Alfred Döblin, Gwobr Marie Luise Kaschnitz, Gwobr Booker yr Almaen, Gwobr y Meic Agored, Gwobr Roswitha |
Gwefan | http://www.juliafranck.de/site/julia_franck/home |
Awdures Almaenig yw Julia Franck (ganwyd 20 Chwefror 1970).
Fe'i ganed yn un o efeilliaid yn Nwyrain Berlin ar 20 Chwefror 1970. Mae'n ferchi i'r actores Anna Franck a'i thad yw'r cynhyrchydd teledu Jürgen Sehmisch.
Yn 1978 symudodd y teulu i Orllewin Berlin lle treuliodd naw mis mewn gwersyll ffoaduriaid ac yna i Schleswig-Holstein, sef y dalaith mwyaf gogleddol yn yr Almaen. Astudiodd Franck lenyddiaeth Almaeneg ac Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Rydd Berlin a threuliodd beth amser yn yr Unol Daleithiau, Mecsico a Gwatemala. Gweithiodd fel golygydd ar gyfer Sender Freies Berlin a chyfrannodd at bapurau newydd a chylchgronau amrywiol. Yn 2019 roedd yn byw gyda'i phlant yn Berlin.[1][2][3]
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Lagerfeuer a Die Mittagsfrau.
Hyd at 2019, roedd Franck yn awdur pum nofel, un casgliad o storiau byrion, a golygydd casgliad o draethodau. Mae ei thair nofel ddiweddaraf: Lagerfeuer, Die Mittagsfrau, a Rücken an Rücken, yn ogystal â'r casgliad Grenzübergänge, yn ymwneud yn benodol â hanes yr Almaen yn yr 20g. Mae Lagerfeuer wedi'i lleoli yng ngwersyll ffoaduriaid Gorllewin Berlin, sef y Berlin-Marienfelde yn y 1970au ac mae'n dilyn pedwar prif gymeriad, un ohonynt, Nelly Senff, wedi ffoi i Ddwyrain Berlin gyda'i ddau blentyn ifanc. Mae Rücken an Rücken hefyd wedi'i lleoli yn ystod y blynyddoedd pan godwyd Mur Berlin, gan ddiweddu yn y 1960au cynnar ac mae Die Mittagsfrau yn rhychwantu'r cyfnod rhwng y Rhyfel Byd Cyntaf a rhannu'r Almaen ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.
Er nad yw Franck wedi disgrifio'i hun fel awdur ffeministaidd, mae ysgolheigion ffeministaidd wedi tanlinellau rhai agweddau perthnasol i ffeministiaeth e.e. profiadau menywod mewn hanes, strwythurau pŵer merched, rhywioldeb, a pherthnasoedd (megis mamolaeth).
Bu'n aelod o Ganolfan PEN yr Almaen am rai blynyddoedd. [4]