Julian Lewis Jones | |
---|---|
Ganwyd | 27 Awst 1968 ![]() Bangor ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu, cynhyrchydd teledu ![]() |
Actor llwyfan, ffilm-a-theledu o Gymru yw Julian Lewis Jones (ganwyd 27 Awst 1968[1]).
Ganwyd Julian Lewis Jones ym Mangor[2] a fe'i magwyd yn Benllech, Ynys Môn. Aeth i Ysgol Goronwy Owen, Benllech ac Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Ar ôl gadael ysgol aeth ar gwrs Y.T.S yng Ngholeg Technegol Bangor, a chafodd brentisiaeth gydag Alwminiwm Môn lle weithiodd am dair blynedd. Aeth i fyw yn America a Llundain am gyfnod, cyn sylweddoli yn 21 mlwydd oed ei fod eisiau bod yn actor.
Aeth am glyweliad gyda RADA yn Llundain ond ni chafodd lwyddiant. Yna cafodd le ar gwrs yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd lle astudiodd ddrama am dair blynedd.[1]
Mae wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu yn Gymraeg a Saesneg yn cynnwys Belonging, Where the Heart Is a Caerdydd.[3] Yn 2010 fe ymddangosodd yng nghyfres deledu The Tudors fel Mr. Roper (y rheolwr parc) yng Nghyfres 4, Pennod 1. Hefyd yn 2010 fe ymddangosodd ar y gyfres deledu Brydeinig Spooks (MI-5 yn America) fel yr ysbïwr Rwsiaidd Viktor Barenshik yng nghyfres 9, pennod 3.
Mae ganddo ddiddordeb brwd mewn pysgota ac yn ei arddegau ymunodd a chlwb pysgota a chafodd ei ddewis i dîm pysgota Cymru.[4] Roedd yn gyflwynydd y rhaglen bysgota 'Sgota ar S4C.[5].
Yn 2012 a 2013, fe ymddangosodd ar y gyfres ddrama gomedi Stella ar Sky1 fel Karl Morris ac mewn pennod o Ambassadors, drama gomedi ar BBC Two.
Yn 2009, serennodd yn ffilm ddrama Clint Eastwood, Invictus, fel pennaeth tîm gwarchodwyr Nelson Mandela.[6] Roedd ganddo ran yn y ffilm Zero Dark Thirty ryddhawyd yn Ionawr 2013.[2] Yn 2021 chwaraeodd ran Gwyn yn y ffilm arswyd Gymraeg Gwledd.
Mae Jones yn byw ar hyn o bryd yn Nantgaredig, Sir Gaerfyrddin gyda'i wraig a tri o blant.[2]
|date=
(help)