Jumabek Ibraimov

Jumabek Ibraimov
Ganwyd1 Ionawr 1944 Edit this on Wikidata
Dzhany-Alysh Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ebrill 1999 Edit this on Wikidata
Bishkek Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCirgistan Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Kyrgyz Technical University Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Cirgistan Edit this on Wikidata

Gwleidydd a pheiriannydd o Girgistan oedd Jumabek Ibraimovich Ibraimov (1 Ionawr 19444 Ebrill 1999) a wasanaethodd yn Brif Weinidog Cirgistan o 1998 i 1999.

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganed Jumabek Ibraimovich Ibraimov ar 1 Ionawr 1944 i deulu o werinwyr yn Jany-Alysh, ardal Kemin, yn rhanbarth Chui yng ngogledd Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Cirgisia, a oedd ar y pryd yn rhan o'r Undeb Sofietaidd. Wedi iddo adael yr ysgol yn 1960, gweithiodd yn brentis i saer glo mewn ffatri yn Frunze (hen enw prifddinas y weriniaeth, Bishkek). Fe'i hyfforddwyd yn beiriannydd yn Sefydliad Polytechnig Frunze yn 1963, a chafodd saib yn ei addysg i wasanaethu yn y lluoedd awyrennol Sofietaidd ger dinas Tula. Cychwynnodd ar ei astudiaethau ôl-raddedig yn 1971, a gweithiodd yn ddarlithydd yng nghyfadran adeiladau peiriannau Sefydliad Polytechnig Frunze. Aeth ar gwrs arbennig yn Sefydliad Adeiladu Offer Peiriannau ym Moscfa yn 1976. Gweithiodd mewn ffatri peiriannau amaethyddol yn Frunze cyn iddo symud i ffatri yn Rybachy, gogledd-orllewin Cirgisia, yn Ionawr 1977. Yn ddiweddarach fe'i dyrchafwyd yn gyfarwyddwr y ffatri honno.[1]

Gyrfa wleidyddol

[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Ibraimov weithio i'r Blaid Gomiwnyddol yn 1985, ac yn Rhagfyr fe'i benodwyd yn brif ysgrifennydd y blaid yn Rybachy. Ymunodd â rhengoedd uchaf y blaid yng Nghirgisia yn Ionawr 1988 pryd gafodd ei benodi'n brif ddirprwy bennaeth ar adran gweithgareddau cyfundrefnol y blaid, un o adrannau'r Pwyllgor Canolog. Ym Mawrth 1991 fe'i dyrchafwyd yn ail ysgrifennydd y blaid yn rhanbarth Chui. Yn Nhachwedd 1991, ar fin cwymp yr Undeb Sofietaidd, penodwyd Ibraimov yn ddirprwy gadeirydd Pwyllgor Diogelwch ac Amddiffyn y Sofiet Oruchaf ym Moscfa.[1]

Yn sgil datgymalu'r gweriniaethau Sofietaidd, trodd Ibraimov at fyd busnes. Daeth yn gyfarwyddwr y cwmni cydgyfalaf Janash yn 1992, ac yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn gadeirydd Kyrgyzstan Aba Joldoru. Parhaodd yn wleidyddol weithgar, a chafodd ei ethol i'r senedd ddwywaith. Penodwyd yn faer Bishkek yn Ionawr 1993, ac yn ysgrifennydd gwladol i'r Arlywydd Askar Akaev yn Ionawr 1995. Fe'i penodwyd yn gynghorydd economaidd i'r arlywydd ac yn gynrychiolydd llawnalluog yr arlywydd i Gynulliad y Bobl, uwch siambr y senedd, ym Mawrth 1996. Bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w waith am gyfnod oherwydd afiechyd, a dychwelodd i fywyd cyhoeddus yn Rhagfyr 1997 yn gadeirydd y Gronfa Eiddo Wladwriaethol, swydd a chanddi statws gweinidog yn y llywodraeth.[1]

Ar 25 Rhagfyr 1998 penodwyd Ibraimov yn brif weinidog Cirgistan gan yr Arlywydd Akaev wedi iddo ddiswyddo'r holl gabinet. Ymdrechodd Ybraimov i gychwyn ar breifateiddio cwmnïau cyhoeddus er mwyn gwella'r sefyllfa economaidd ac i mynd i'r afael â llygredigaeth yn y wlad. Wedi deufis yn y swydd, bu'n rhaid iddo gael llawdriniaeth ym Moscfa i drin canser y stumog. Dychwelodd i'w waith yn niwedd Mawrth 1999, ond bu farw o'i afiechyd ar 4 Ebrill 1999 yn Bishkek yn 55 oed. Bu'n briod a chafodd bedwar plentyn.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Felix Corley, "Obituary: Jumabek Ibraimov Archifwyd 2021-06-05 yn y Peiriant Wayback", The Independent (8 Ebrill 1999). Adalwyd ar 7 Ionawr 2020.