Juneteenth

Juneteenth
Gŵyl Juneteenth 2019 ym Milwaukee, Wisconsin.
Enghraifft o'r canlynolfederal holiday in the United States Edit this on Wikidata
MathEmancipation Day Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu19 Mehefin 1865 Edit this on Wikidata
Enw brodorolJuneteenth Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gŵyl flynyddol i goffáu diwedd caethwasiaeth yn Unol Daleithiau America yw Juneteenth a ddethlir ar 19 Mehefin. Cywasgair o June nineteenth ydy'r enw.[1] Fe'i adwaenir hefyd fel Diwrnod y Rhyddfreinio, Diwrnod Rhyddid, Diwrnod Jiwbilî, Diwrnod Annibyniaeth Ddu, neu yn swyddogol gan y llywodraeth ffederal Diwrnod Annibyniaeth Cenedlaethol Juneteenth (Saesneg: Juneteenth National Independence Day).[2][3] Mae'r dyddiad yn nodi gorchymyn gan yr Uwchfrigadydd Gordon Granger ar 19 Mehefin 1865 i gyhoeddi rhyddhau caethweision Texas (dwy flynedd a hanner wedi Datganiad y Rhyddfreinio gan yr Arlywydd Abraham Lincoln). Cychwynnodd yr ŵyl yn Galveston, ac oddi yno ymledodd i rannau eraill o Texas a thaleithiau eraill i ddathlu diwylliant ac hanes yr Americanwyr Affricanaidd. Fe'i cydnabuwyd yn ŵyl genedlaethol gan lywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau yn 2021, yr ŵyl ffederal newydd gyntaf ers sefydlu Diwrnod Martin Luther King Jr ym 1983.[4]

Dethlid penblwydd cyntaf y gorchymyn ar 19 Mehefin 1866, gan gynulleidfaoedd cymunedol ac eglwysig yn Texas. Lledaenodd ar draws De'r Unol Daleithiau erbyn diwedd y 19g, ac yn y 1920au a'r 1930au cafodd y dathliadau eu masnacheiddio, gan gynnwys gŵyl fwyd yn aml. Dygwyd Juneteenth i ranbarthau eraill yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ymfudiad Mawr. Câi'r ŵyl ei bwrw i'r cysgod rhywfaint yn oes y Mudiad Hawliau Sifil, ond tyfai ei boblogrwydd eto yn y 1970au gyda phwyslais ar ryddid a chelfyddydau Affricanaidd-Americanaidd. Cyhoeddwyd Juneteenth yn ŵyl daleithiol gan Lywodraethwr Texas ym 1938, a chadarnhawyd hynny gan ddeddf daleithiol ym 1979. Ers hynny, mae pob un o daleithiau'r Unol Daleithiau, yn ogystal â Washington, D.C., wedi cydnabod Juneteenth mewn rhyw fodd ffurfiol. Dethlir Juneteenth hefyd gan y Mascogos, grŵp ethnig croenddu sydd yn disgyn o frodorion y Seminole, caethweision a chyn-gaethweision Affricanaidd a ffoes i Coahuila, Mecsico, ym 1852.

Mae traddodiadau Juneteenth yn cynnwys darlleniadau cyhoeddus o Ddatganiad y Rhyddfreinio, canu emynau ysbrydol a chaneuon yr efengyl megis "Swing Low, Sweet Chariot" a "Lift Every Voice and Sing", a darllen gweithiau gan lenorion Affricanaidd-Americanaidd o nod, er enghraifft Ralph Ellison a Maya Angelou. Gall dathliadau hefyd gynnwys rodeos, ffeiriau stryd, barbeciwiau, aduniadau teuluol, partïon, ailgreadau hanesyddol, a chystadlaethau Miss Juneteenth.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) "Juneteenth: How the US holiday is being celebrated", BBC (17 Mehefin 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 19 Mehefin 2023.
  2. (Saesneg) Juneteenth. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Mehefin 2023.
  3. (Saesneg) Sharon Pruitt-Young, "Juneteenth: What It Is And How It Is Observed", NPR (17 Mehefin 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 18 Mehefin 2021.
  4. (Saesneg) "Juneteenth: US to add federal holiday marking end of slavery", BBC (17 Mehefin 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 19 Mehefin 2023.