Karl Wallinger | |
---|---|
Ganwyd | Karl Edmond De Vere Wallinger 19 Hydref 1957 Prestatyn |
Bu farw | 10 Mawrth 2024 Hastings |
Man preswyl | Hastings |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cynhyrchydd recordiau, cyhoeddwr cerddoriaeth, canwr, cerddor, cyfansoddwr, offerynnau amrywiol |
Arddull | cerddoriaeth roc, cerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth y byd |
Prif ddylanwad | Bob Dylan, Love, The Beatles, The Beach Boys |
Cerddor, cyfansoddwr caneuon a chynhyrchydd recordiau o Gymru oedd Karl Edmond De Vere Wallinger (19 Hydref 1957 – 10 Mawrth 2024). Roedd e'n fwyaf adnabyddus am ei amser yn y bandiau World Party a The Waterboys.
Wallinger oedd ysgrifennwr y caneuon "Ship of Fools" a "She's the One", a gafodd sylw yn ddiweddarach gan Robbie Williams.[1]
Cafodd Wallinger ei eni ym Mhrestatyn. Cafodd ei addysg yn yr ysgol Charterhouse yn Surrey).[2] [3]
Dechreuodd gyrfa gerddorol Wallinger ym Mhrestatyn yn 1977 fel chwaraewr allweddellau gyda'r bandiau Pax a Quasimodo gyda Dave Sharp a Nigel Twist (a aeth yn eu blaen i fod yn aelodau o The Alarm). Wedyn daeth yn gyfarwyddwr cerdd y Rocky Horror Show.
Ymunodd Wallinger i fand Mike Scott y Waterboys fel chwaraewr bysellfwrdd ym 1983, Ysgrifennodd Wallinger y gerddoriaeth wreiddiol ar gyfer "Don't Bang the Drum" (trac agoriadol yr albwm This Is the Sea).
Roedd Wallinger yn briod â'r cerflunydd Suzie Zamit. Bu iddynt ddau o blant.[3] Datgelodd Wallinger ei fod wedi dioddef ymlediad ar yr ymennydd ym mis Chwefror 2001.[4] [5] Er bod yr aniwrysm yn golygu bod yn rhaid iddo atal ei holl waith am bron i bum mlynedd, fe ailddechreuodd ar daith yn 2006.
Bu farw Wallinger ar 10 Mawrth 2024, yn 66 oed [1]