Gwlad | Albania |
---|---|
Cydffederasiwn | UEFA |
Sefydlwyd | 19 Ionawr 1910 |
Nifer o dimau | 10 (from 2014–15) |
Lefel ar byramid | 1 |
Disgyn i | First Division |
Cwpanau | Albanian Cup Albanian Supercup |
Cwpanau rhyngwladol | UEFA Champions League UEFA Europa League |
Pencampwyr Presennol | KF Partizani Tiranë (teitl 1af) (2018-19) |
Mwyaf o bencampwriaethau | Tirana (24 teitl) |
Prif sgoriwr | Vioresin Sinani (207 goals or 208 goals, acccoring to Albanian media)[1] |
Partner teledu | SuperSport Albania a Radio Televizioni Shqiptar |
Gwefan | Gwefan swyddogol |
2019–20 Albanian Superliga |
Mae Superliga Albania (Albaneg: Kategoria Superiore) yn gynghrair broffesiynol ar gyfer clybiau pêl-droed dynion. Dyma frig system gynghrair pêl-droed Albania. Mae'r gynghrair yn cynnwys 10 clwb, ac mae'n gweithredu ar system o esgyn a disgyn gyda'r clwb isaf yn disgyn i Gynghrair Gyntaf Albania. Mae'r tymhorau'n rhedeg o fis Awst i fis Mai, gyda thimau'n chwarae 36 gêm bob un (gan chwarae pob tîm yn y gynghrair bedair gwaith, ddwywaith yn y cartref a dwywaith i ffwrdd).
Sefydlwyd y gystadleuaeth yn 1930 fel Pencampwriaeth Genedlaethol Albania yn ystod teyrnasiad y brenin Zog, yn fuan ar ôl creu Ffederasiwn Pêl-droed Albania. Ers 1930, mae 43 clwb wedi cystadlu mewn yn y gystadlaethau cydnabyddedig, ond dim ond naw clwb sydd wedi ennill y teitl: KF Tirana (24), FK Dinamo Tirana (18), FK Partizani Tirana (15), KF Vllaznia Shkodër (9), KF Skënderbeu Korçë (6), KF Elbasani (2), Flamurtari Vlorë (1), KF Teuta Durrës (1) a FK Kukësi (1). Y pencampwyr presennol yw FK Kukësi, a enillodd eu teitl cyntaf yn 2016-17.
Cyflwynwyd pêl-droed gyntaf i Albania gan offeriad Seisnig-Malteg o'r enw Gut Ruter a ymwelodd â'r coleg Saveriaidd yn Shkodra yn 1908. Y clwb pêl-droed cyntaf yn Albania oedd Indipendenca, a sefydlwyd yn Shkodra yn 1912 gan Palokë Nika.[2] Cynhaliwyd y gêm 90-munud cyntaf llawn gyntaf ym mis Hydref 1913 ehwng Indipendenca Shkodra a'r thîm o lynges Awstria-Hwngari. Ystyrir hi fel y gêm ryngwladol gyntaf i gael ei chwarae yn Albania, ond collodd Indipendenca oedd 1-2 Indipendenca. Sgoriodd capten a sylfaenydd y clwb, Palokë Nika yr unig gôl i'r Albanaiaid.[3]
Twrnamaint Pêl-droed ffair Fier, 1911 Yn 2012 darganfu haneswyr bod twrnamaint pêl-droed wedi digwydd yn Albania yn 1911, rhyw 19 mlynedd cyn sefydlu Pencampwriaeth Genedlaethol Albania a Ffederasiwn Pêl-droed Albania, FSHF. Cynhaliwyd Twrnamaint Pêl-droed Ffair dinas Fier (Albaneg: Turneu Futbollistik i Panairit te Fierit) yn Rahije, Fier tra roedd Albania yn dal o dan Ymerodraeth Otomanaidd. Cystadlu 8 tîm: Tirana, Elbasani, Kavaja, Berati, Peqini, Vlora, Fieri a Lushnja. Enillodd Tirana y twrnamaint ar ôl trechu Peqini 6-1 yn y rownd derfynol. Nid yw'r Ffederasiwn Pêl-droed Albania nac UEFA yn cydnabod y twrnamaint yn swyddogol. Ni drefnod y FSHF twrnamaint gan nad sefydlwyd nes 1930.[4]
Pencampwriaeth yr Ail Ryfel Byd Ymosodwyd Albania gan luoedd Eidal yr unben Mussolini yn Ebrill 1939 a dorrodd yr Ail Ryfel Byd yn fuan wedyn ym mis Medi. O ganlyniad rhoddodd y FSHF derfyn ar drefnu cystadleuaeth (fel ddigwyddodd mewn sawl gwlad arall). Er gwaethaf y Rhyfel, cynhaliwyd tri pencampwriaethau rhwng 1939 a 1942 gyda Tirana yn ennill y pencampwriaeth yn 1939 a 1942 ac Shkodra yn 1940. Er gwaethaf galwadau i gydnabod y pencampwriaeth mae'r FSHF wedi gwrthod rhoi statws ffurfiol iddynt.[5]
Hyd at 2017-18 dyma'r nifer o bencampwriaethau mae timau wedi ennill:
Mae'r timau isod yn cystadlu yn y Superliga yn nhymor 2017-18.[6]
|