Katherine Ryan | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mehefin 1983 Sarnia |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon, Canada |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, actor, cyflwynydd teledu |
Adnabyddus am | Bring The Noise |
Tad | Finbarr Ryan |
Mam | Julia McCarthy |
Gwefan | https://www.theregister.com/2020/12/11/katherine_ryan_domain/ |
Mae Katherine Ryan (ganed 30 Mehefin 1983) yn gomedïwraig, ysgrifenwraig, cyflwynwraig ac actores Ganadaidd-Wyddelig. Mae'n byw yn Llundain.
Mae Ryan yn ferch i dad Gwyddelig a mam Ganadaidd o dras Wyddelig. Mae ei thad yn ddrafftsmon sy'n berchen ar gwmni peirianneg. Ganwyd a magwyd Ryan a'i dwy chwaer iau yn Sarnia, Ontario.[1] Treuliodd hafau ei phlentyndod yng Nghorc yn ymweld â'i mam-gu a thad-cu ar ochr ei thad. Astudiodd cynllunio trefol mewn prifysgol yn Toronto.[2] Tra'n astudio, gweithiodd yn Hooters yn ogystal â chymryd rhan mewn nosweithiau meic agored yn ei hamser sbâr.
Daeth Ryan i Lundain am fis gyda'i chariad yn yr haf yn 2007, cyn penderfynu symud yno'n barhaol yn Ionawr 2008. Mae erbyn hyn yn byw yn ardal Crouch End[3] y ddinas gyda'i merch o gyn-gariad, Violet. Mae Ryan wedi dioddef gyda chanser y croen ddwywaith yn y gorffennol.[4][5]
Ymddangosodd Ryan ar deledu am y tro cyntaf yn 2012 ar raglen Channel 4 8 Out of 10 Cats. Mae wedi mynd ymlaen i ymddangos ar raglenni panel eraill, gan gynnwys Mock the Week, Never Mind the Buzzcocks, A League of Their Own, QI a Have I Got News for You.
Fel actores, mae wedi ymddangos yn y comedi sefyllfa Channel 4 Campus[6][7], y comedi sefyllfa BBC Two Episodes[8] a Don't Sit in the Front Row gyda Jack Dee.[8] Fel comedïwraig ar ei sefyll, mae Ryan wedi ymddangos fel act ar Live at the Appollo ar y BBC.
Yn 2015, cymerodd le Steve Jones fel cyflwynydd y rhaglen Hair ar BBC Two. Hefyd yn 2015, daeth Ryan yn banelydd ar y rhaglenni Bring the Noise ar Sky 1, ar dîm Tinie Tempah, a Safeword ar ITV2.
Mae gan Ryan golofn wythnosol yn y cylchgrawn adloniant NME.
Enillodd y Wobr Ferched Doniol Nivea yn 2008.[9]
|publisher=
(help)