Ymgyrchydd o'r Unol Daleithiau yn erbyn newid hinsawdd yw Katie Eder (ganwyd tua 1999/2000 ). Mae hi'n entrepreneur cymdeithasol a sefydlodd 50 Miles More (mudiad yn erbyn gynnau), Kids Tales (annog llenorion ifanc), a The Future Coalition (yn erbyn newid hinsawdd). Yn 2021 roedd yn Gyfarwyddwaig Gweithredol y mudiad The Future Coalition.[1][2][3]
Yn Rhagfyr 2019, enwyd Eder yn un o Forbes 30 dan 30 yn yr adran Cyfraith a Pholisi.[4]
Cafodd Eder ei geni a'i magu yn Milwaukee, Wisconsin.[5] Graddiodd yn Ysgol Uwchradd Shorewood yn 2018 a chychwynodd ym Mhrifysgol Stanford yn hydref 2020.[6] Hi yw'r ieuengaf o bump o blant.[7]
Pan oedd Katie yn 13 oed, sefydlodd sefydliad dielw, Kids Tales, i ddod â gweithdai ysgrifennu creadigol, a addysgir gan bobl ifanc, i blant nad oes ganddynt fynediad at brofiadau ysgrifennu y tu allan i'r ysgol.[1][8] Yn ystod gweithdy Kids Tales, mae plant yn ysgrifennu storiau byrion sydd yna'n cael eu cyhoeddi mewn blodeugerdd, llyfr go iawn.[9][10] Mae pymtheg cant o blant mewn naw gwlad wedi cymryd rhan mewn gweithdai Kids Tales.[11] Mae Kids Tales wedi ymgysylltu â dros 400 o 'athrawon' yn eu harddegau ac wedi cyhoeddi 90 o flodeugerddi.[12][13]
Ar ôl i ddigwyddiadau 2018March For Our Lives ddod i ben ar Fawrth 24, trefnodd Katie a myfyrwyr eraill o’i hysgol uwchradd orymdaith 50 milltir o Madison, Wisconsin i Janesville,Wisconsin, tref enedigol cyn Lefarydd y Tŷ yn yr UDA, Paul Ryan, i’w alw allan am ei rôl yn blocio a chladdu deddfwriaeth gynnau.[14][15] Arweiniodd yr orymdaith 50 Miles More a lansiodd ymgyrch ledled y wlad o'r enw #50more a #50states i herio'r 49 talaith arall UDA i gynnal protestiadau debyg yn nhrefi swyddogion a oedd yn gysylltiedig a'r NRA (sef y National Rifle Association) i fynnu eu bod yn gweithredu i roi diwedd ar drais gyda gynnau.[16][17] Cerddodd ymgyrchwyr 50 Miles More 50 milltir ym Massachusetts yn Awst 2018. Hefyd, fe wnaeth 50 Miles More annog eu haelodau i bleidleisio'n effeithiol i bleidleisio yn etholiadau canol tymor 2018.[18][19]
Arweiniodd Katie'r mudiad 50 Miles More i bartneru â sefydliadau eraill a arweinir gan ieuenctid ledled y wlad i ffurfio Future Coalition (Clymblaid y Dyfodol), sef rhwydwaith a chymuned genedlaethol ar gyfer pobl ifanc a sefydliadau dan arweiniad ieuenctid gyda'r nod o wella'r dyfodol, a'i wneud yn fwy diogel a chyfiawn i bawb.[20][21] Mae Future Coalition yn cysylltu sefydliadau pob ifanc ac arweinwyr ifanc ledled yr Unol Daleithiau i rannu adnoddau a syniadau.[22][23] Lansiwyd Future Coalition ym Medi 2018 gyda'r ymgyrch etholiadol Walkout to Vote. Cerddodd dros 500 o ysgolion ledled y wlad allan o'r dosbarth a gorymdeithio i'r gorsafoedd pleidleisio.[24][25]