Cymrodoriaeth Guggenheim, Cymrodoriaeth MacArthur, Gwobr Pulitzer am Farddoniaeth, Medal y Dyniaethau Cenedlaethol, Gwobr Ruth Lilly am Farddoniaeth
BarddAmericanaidd yw Kay Ryan (ganwyd 21 Medi1945) sydd wedi cyhoeddi saith cyfrol o farddoniaeth a blodeugerdd o gerddi dethol a newydd. Rhwng 2008 a 2010 hi oedd un-deg-chweched Bardd Llawryfog yr Unol Daleithiau.[1] Yn 2011 fe'i henwyd yn Gymrawd MacArthur ac enillodd yn Enillydd Gobr Pulitzer.[2]
Fe'i ganed yn San Jose, Califfornia ar 21 Medi1945 a symudodd y teulu ambell dro yn yr ardal rhwng San Joaquin Valley a Diffeithwch y Mojave. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Califfornia, Los Angeles a Choleg Antelope Valley gan lwyddo i gael gradd Meistr mewn Saesneg yn 1968.[3][4][5][6][7][8][9]
Ers 1971, mae hi wedi byw yn Marin County, California, ac wedi dysgu Saesneg yn rhan-amser yng Ngholeg Marin yn Kentfield. Carol Adair, a oedd hefyd yn hyfforddwr yng Ngholeg Marin, oedd partner Ryan o 1978 hyd nes marwolaeth Adair yn 2009.[10][11][12]
Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf, Dragon Acts to Dragon Ends, yn breifat yn 1983 gyda chymorth ffrindiau. Er iddi ddod o hyd i gyhoeddwr masnachol ar gyfer ei hail gasgliad, Strangely Marked Metal (1985), ni roddwyd fawr o sylw i'w gwaith tan ganol y 1990au, pan gafodd rhai o'i cherddi eu trafod a chyhoeddwyd yr adolygiadau cyntaf mewn cylchgronau cenedlaethol.[13] Cafodd ei chydnabod yn eang ar ôl derbyn Gwobr Barddoniaeth Ruth Lilly yn 2004, a chyhoeddodd ei chweched casgliad o farddoniaeth, The Niagara River, yn 2005.
Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrodoriaeth Guggenheim (2004), Cymrodoriaeth MacArthur, Gwobr Pulitzer am Farddoniaeth (2011), Medal y Dyniaethau Cenedlaethol (2012), Gwobr Ruth Lilly am Farddoniaeth[14][15][16] .