Keith Chegwin | |
---|---|
Ganwyd | 17 Ionawr 1957 Lerpwl |
Bu farw | 11 Rhagfyr 2017 o ffibrosis ysgyfeiniol idiopathig Swydd Amwythig |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, cyflwynydd teledu, actor teledu |
Priod | Maggie Philbin |
Gwefan | https://www.keithchegwin.com |
Actor a chyflwynydd teledu Seisnig oedd Keith Chegwin (17 Ionawr 1957 – 11 Rhagfyr 2017). Cychwynodd fel actor pan yn blentyn a daeth yn un o gyflwynwyr teledu plant mwyaf adnabyddus yr 1980au. Cyflwynodd y rhaglenni teledu Multi-Coloured Swap Shop, Cheggers Plays Pop a Saturday Superstore.[1]
Fe'i ganwyd yn Lerpwl. Brawd y cyflwynydd radio Janice Long oedd ef. Priododd yr actores a chyflwynydd teledu Maggie Philbin ym 1982; ysgarodd 1993. Priododd Maria Fielden yn 2000.
Bu farw yn Rhagfyr 2017 wedi gwaeledd hir yn dioddef o ffibrosis ysgyfeiniol idiopathig.