Math | anheddiad dynol |
---|---|
Gefeilldref/i | Torre San Patrizio |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Meath |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Uwch y môr | 66 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 53.727998°N 6.877613°W |
Tref yn Swydd Meath, Iwerddon, yw Kells neu Celys (Gwyddeleg: Ceanannas).[1] Saif gerllaw'r briffordd N3, 10 milltir o Navan a 40 milltir o Ddulyn. Roedd y boblogaeth yn 2002 yn 4,421.
Mae'n fwyaf adnabyddus fel safle Abaty Kells, a sefydlyd tua 804 gan fynachod yn ffoi o abaty Iona oherwydd ymosodiadau'r Llychlynwyr. Yma y cynhaliwyd Synod Kells yn 1152, a orffenodd y broses o droi eglwys Iwerddon o un oedd yn seiliedig ar abatai i eglwys yn seiliedig ar esgobaethau. Cysylltir Llyfr Kells a'r abaty yma, a gellir gweld pump croes Geltaidd fawr yma. Mae gan Kells gysylltiad a'r sant Colum Cille hefyd.