Kelly Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 22 Mai 1975 ![]() Pontypridd ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr badminton, Olympic competitor ![]() |
Taldra | 178 centimetr ![]() |
Pwysau | 65 cilogram ![]() |
Gwobr/au | MBE, Welsh Sports Hall of Fame, national champion, Commonwealth Games champion ![]() |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru, y Deyrnas Unedig ![]() |
Chwaraewr badminton o Gymru yw Kelly Ann Aston MBE (neé Morgan, ganwyd 22 Mai 1975). Llwyddodd i ennill y fedal aur yng Ngemau Gymanwlad 1998 yn Kuala Lumpur, Maleisia, ac roedd yn aelod o dîm Prydain Fawr yng Gemau Olympaidd yr Haf ym 1996, 2000 a 2004[1].
Dechreuodd Morgan chwarae badminton yn naw mlwydd gan fod ffrind i'w theulu wedi sefydlu clwb badminton[2]. Sicrhaodd ei lle yn nhîm Cymru ar ôl mynd i wylio ei brawd Ross yn y treialon[3].
Llwyddodd i ennill Senglau'r Merched ym Mhencampwriaeth Badminton Cymru am 13 blynedd yn olynol rhwng 1992 a 2004 yn ogystal â chipio chwe pencampwriaeth yng nghystadleuaeth Dyblau'r Merched a phedair pencampwriaeth Dyblau Cymysg. Cafodd ei dewis i gynrychioli Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1996 yn Atlanta, Unol Daleithiau America yng nghystadleuaeth y senglau a'r dyblau[1].
Yn Ebrill 1998 llwyddodd Morgan i ennill medal arian ym Mhencampwriaeth Badminton Ewrop yn Sofia, Bwlgaria cyn cipio'r fedal aur yn senglau'r merched yng Ngemau'r Gymanwlad yn Kuala Lumpur, Maleisia.[2] Cafodd ei dewis i gynrychioli Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2000 yn Sydney, Awstralia lle llwyddodd i gyrraedd yr 16 olaf[4]
Ym 1999 cafodd Morgan ei henwi'n Merch Gymreig y Flwyddyn [3] ac yn 2002 cafodd ei hurddo ag MBE am "wasanaeth i'r gymuned, yn enwedig mewn chwaraeon yn ne Cymru".[5]