Math | safle archaeolegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Punic Town of Kerkuane and its Necropolis |
Sir | Nabeul |
Gwlad | Tiwnisia |
Arwynebedd | 0.1022 ha |
Cyfesurynnau | 36.9464°N 11.0992°E |
Statws treftadaeth | rhan o Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Dinas hynafol Pwnig yw Kerkouane, y leolir ei safle 12 km i'r gogledd o Kelibia ar arfordir gogledd-ddwyreiniol Cap Bon, gogledd Tiwnisia. Mae'n safle archaeolegol unigryw gan ei bod yr unig enghraifft o ddinas Ffeniciaidd sydd wedi goroesi. Mae ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd.
Ychydig iawn a wyddys am hanes Kerkouane. Mae hyd yn oed ei henw iawn yn ddirgelwch. Cafodd ei henwi gan y tîm o archaeolegwyr o Ffrancod a'i darganfu yn 1953. Ymddengys iddi fod yn drigfan i'r Berberiaid lleol cyn i'r Carthaginiaid gyrraedd tua diwedd yr wythfed ganrif, efallai. Tyfodd i fod yn ddinas ranbarthol nodweddiadol Garthaginaidd, yn gymysgfa o nodweddion brodorol a Ffenicaidd. Mae'r rhan fwyaf o'r adfeilion sydd i'w gweld ar y safle heddiw yn dyddio o ddechrau'r 6g CC.
Ymddengys mai marsiandïwyr a chrefftwyr oedd y trigolion i gyd bron, sy'n awgrymu bod Kerkouane yn ganolfan masnach arfordirol a elwai o'r fasnach fawr ar hyd arfordir gogledd Affrica gan y morwyr Ffenicaidd. Cafwyd hyd i olion nifer o weithdai crefft lle cynhyrchid gemwaith, addurnau o bob math, cerfluniau bychain a gwaith mewn gwydr. Roedd y ddinas yn cynhyrchu y lliwur porffor a wneid o'r murex yn ogystal, un o ddeunyddiau mwyaf gwerthfawr yr Henfyd a lysenwid 'Y Porffor Brenhinol'.
Dinistriwyd rhannau o'r ddinas pan ymosododd Agathocles arni yn 310 CC. Dioddefodd eto pan laddwyd nifer o'r trigolion gan y cadfridog Rhufeinig Regulus yn y Rhyfel Pwnig Cyntaf (256 CC). Ymddengys i'r safle gael ei roi heibio ar ôl hynny, efallai am ei fod mor agored i ymosodiadau.
Mae Kerkouane yn profi bod cynllunio tref yn wyddor ddatblygiedig gan y Carthaginiaid. Mae'r ddinas yn gorwedd o fewn muriau hirgron sy'n ei amddiffyn ar ochr y tir ond mae'n agored i'r môr. Does dim olion o harbwr heddiw. Mae'r strydoedd ar batrwm grid a'r tai wedi'u trefnu'n daclus ar hyd iddynt. Roedd y brif fynedfa yn y gogledd. Cafwyd hyd i nifer o loriau mosaic. Roedd yna faddondai cyhoeddus a nifer o faddonau preifat hefyd yn y tai. Nid oes adeiladau rhwysgfawr i'w gweld ond ceir nifer o demlau bach ac mae arwyddion y dduwies Tanit, nawdd-dduwies Carthago, i'w gweld ymhobman.
Ceir amgueddfa fach ar ymyl y seit; ei phrif drysor yw'r sarcoffagws pren wedi'i cherfio i gynrychioli'r dduwis Astarte, a elwir 'Tywysoges Kerkouane'. Tybir ei bod yn perthyn i offeiriades yng ngwasanaeth y dduwies honno.