Kevin Barry

Kevin Barry
Ganwyd20 Ionawr 1902 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
Bu farw1 Tachwedd 1920 Edit this on Wikidata
o crogi Edit this on Wikidata
Mountjoy Prison Edit this on Wikidata
Man preswylSwydd Dulyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gwyddel
Alma mater
Galwedigaethmyfyriwr meddygol, chwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Myfyriwr meddygol a chenedlaetholwr Gwyddelig oedd Kevin Gerard Barry (20 Ionawr 19021 Tachwedd 1920) a'r cyntaf i gael ei ddienyddio gan Brydain ers iddynt ladd 16 o Wyddelod ym Mai 1916, yn dilyn Gwrthryfel y Pasg. 18 oed ydoedd pan gafodd ei grogi.[1] Y cyhuddiad yn ei erbyn oedd ei fod wedi cymryd rhan, fel un o'r Gwirfoddolwyr Gwyddelig, mewn ymgyrch pan saethwyd tri o filwyr Prydain. Claddwyd Kevin Gerard Barry ym Mynwent Glasnevin, (Gwyddeleg: Reilig Ghlas Naíon) sef prif fynwent Gatholig Dulyn.[2]

Tra yn Mountjoy Prison, diwrnod neu ddau cyn iddo gael ei ddienyddio, arwyddodd affidavit, yn manylu sut yr oedd wedi cael ei arteithio yn y carchar gan filwyr byddin Prydain, fel ymgais i'w gael i ddatgelu enwau ei gyd-genedlaetholwyr.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. McConville, Séan (2005). Irish Political Prisoners, 1848–1922: Theatres of War. London: Routledge. ISBN 0-415-37866-4.
  2. Curtis, Liz (1995). The Cause of Ireland: From the United Irishmen to Partition. Belfast: Beyond the Pale Publications. ISBN 0-9514229-6-0.
  3. Nodyn: cymerwyd yr affidavit gan Seán Ó hUadhaigh, cyfreithiwr; tyst: Myles Keogh, Ynad Heddwch, ac arwyddwyd ef gan Kevin Barry. Mae'r gwreiddiol yn yr Amgueddfa Genedlaethol.