Kizzy Crawford | |
---|---|
Ganwyd | 25 Ebrill 1996 Rhydychen |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr |
Gwefan | http://www.kizzymerielcrawford.com |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cantores a chyfansoddwraig werin a blws Bajan-Gymreig yw Kizzy Crawford (ganwyd 25 Ebrill 1996) sydd yn canu yn Gymraeg a Saesneg. Yn ôl Kizzy, "Ei huchelgais fel artist du Cymreig yw gwneud ei marc trwy gyfuno 'soul'/jazz dwyieithog".[1]
Ganwyd Kizzy yn Rhydychen ond pan ysgarodd ei rhieni yn 1999, daeth ei mam ynghyd a'i rhieni hi i fyw i Aberaeron. Mae ei mam yn Saesnes o dde-ddwyrain Lloegr ond treuliodd gwyliau ei phlentyndod gyda thadcu a mamgu yn Diserth, Powys ac roedd wastad eisiau magu ei phlant yng Nghymru.[2]
Mae teulu ei thad yn hannu o Barbados ac fe ymfudodd y teulu i Reading yn y 1950au. Roedd ei thadcu mewn band sgiffl. Mae ei threftadaeth Bajan a'i theulu estynedig yn Barbados yn bwysig iddi ac mae'n ystyried ei hun yn Gymraes.[3]
Cafodd ei haddysg yn Gymraeg ers oedd yn bedair oed. Yn ddiweddarach symudodd i fyw ym Merthyr Tudful.[4] Mynychodd Ysgol Gyfun Rhydywaun, Aberdâr. Hi yw'r hynaf o bump o blant. Mae ganddi chwaer, Eädyth, sydd hefyd yn gantores.[5]
Enillodd Kizzy y gystadleuaeth Canwr/Cyfansoddwr 'Arts Connect' Merthyr a Rhondda Cynon Taf ym 2012 a'r gystadleuaeth Brwydr Y Bandiau yn Eisteddfod Genedlaethol 2013.
Fel Cymraes hil-gymysg, mae wedi profi rhagfarn a hiliaeth ers yn ifanc iawn. Yn yr ysgol gynradd, byddai yn cael ei phryfocio gan ddisgyblion eraill yn gwneud sylwadau am lliw ei chroen. Yn 2014 aeth i berfformio yn Nhalacharn ar gyfer BBC Radio Wales a daeth hen ddyn fyny ati hi a'i mam gan ddweud "I hope there aren’t any more like you where you come from".[3]
Ym mis Medi 2019, canodd Kizzy Calon Lân gyda'i chwaer, Eädyth, mewn rali YesCymru yn Merthyr Tudful, yn datgan ei chefnogaeth dros annibyniaeth i Gymru.[6]