Knaresborough

Knaresborough
Mathtref, plwyf sifil, tref farchnad Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Harrogate
Poblogaeth15,718 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBebra Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGogledd Swydd Efrog
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau54.0084°N 1.467°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04007372 Edit this on Wikidata
Cod OSSE350570 Edit this on Wikidata
Cod postHG5 Edit this on Wikidata
Map

Tref marchnad, plwyf sifil a sba hanesyddol yng Ngogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, ydy Knaresborough.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Harrogate. Saif 4 milltir i'r dwyrain o dref Harrogate.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 15,441.[2]

Mae Caerdydd 304.3 km i ffwrdd o Knaresborough ac mae Llundain yn 292.2 km. Y ddinas agosaf ydy Ripon sy'n 14.5 km i ffwrdd.

Cyfeirir at Knaresborough yn Llyfr Dydd y Farn, fel Chednaresburg neu Chenaresburg.[3] Mae Castell Knaresborough yn dyddio o'r cyfnod Normanaidd,[4] a tua 1100, dechreuodd y dref ehangu i ddarparu marchnad i atynu marchnatwyr i wasanaethu'r castell. Sefydlwyd yr eglwys plwyf heddiw, sef eglwys Sant John tua'r adeg hwn. Mae'r enw cynharaf a roddir ar Arglwydd Knaresborough yn dyddio o tua 1115, pan oedd Serlo de Burgh yn dal "Anrhydedd Knaresborough", a dderbyniodd gan y brenin.[5]

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. British Place Names; adalwyd 31 Awst 2020
  2. City Population; adalwyd 1 Medi 2020
  3. Knaresborough yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book)
  4.  Knaresborough Castle. Knaresborough online (2005).
  5. Maurice Turner, A Brief History of Knaresborough (1990)
Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Swydd Efrog. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato