![]() | |
Enghraifft o: | steil ffasiynol ![]() |
---|---|
![]() |
Yn niwylliant Japan, mae Kogal (コギャル, kogyaru) yn cyfeirio at aelodau'r isddiwylliant Gyaru sy'n dal yn yr ysgol uwchradd neu'n fyfyrwyr ac sy'n ymgorffori gwisg ysgol Japan yn eu steil arferol.[1] Nodweddir y merched ysgol uwchradd hyn gan wallt wedi'u lliwio, colur, sgertiau byr, a sanau llydan a rhydd.[2][3] Daw'r gair kogal allan o kogyaru , sef cyfangiad o 'kōkōsei gyaru' (sef "merch o'r ysgol uwchradd"). Mae merched Japan yn ymfalchïo yn eu gwisg ysgol gymaint, nes eu bod yn ei wisgo y tu allan i furiau'r ysgol.
Isddiwylliant o ffasiwn yw'r Gyaru, ac mae'n perthyn i ferched ifanc, rhyfelgar (yn erbyn eu rhieni fel rheol), sy'n hoff o bartïon gwyllt, fflyrtio a hel bechgyn. Mae Kogal, felly yn is-isddiwylliant.
Yn amlach na pheidio, mae eu sgertiau'n gwta neu'n gwta iawn (sgert fini neu sgert facr), a gwisgant siaced ysgol math Burberry, sgarffiau siec, sgwarog a sgidiau llwyfan, trwchus. Gall eu hiaith gynnwys lawer o slang Saesneg ac yn aml, ond nid bob amser, myfyrwyr ydyn nhw, dros 18 oed, sy'n ceisio edrych yn iau, yn fwy rhywiol: mae nifer ohonyn nhw'n gwisgo fel hyn er mwyn denu dynion am arian. Prif ardaloedd y diwylliant kogal yw Harajuku a Shibuya yn Tokyo, yn enwedig Adeilad 109 Shibuya. Roedd y gantores pop Namie Amuro yn hyrwyddo'r ffasiwn yma. Mae Kogals yn ddefnyddwyr brwd o flychau tynnu lluniau, gyda'r mwyafrif yn ymweld o leiaf unwaith yr wythnos, yn ôl yr arolygon barn.[4]
Fel sydd wedi'i ddweud yn barod, mae llawer o'r merched hyn yn buteiniaid.[5] Mae rhai'n gwadu eu bod yn adlewyrchu gwacter seicolegol neu ysbrydol bywyd modern Japan. Mae rhai kogals yn cefnogi eu ffordd o fyw gyda lwfansau gan rieni cyfoethog, gan fyw bodolaeth "parasit sengl" sy'n cyd-fynd ag egwyddorion traddodiadol dyletswydd a diwydiant.[6] Cred rhai ffeminyddion fod y "merched ifanc hyn yn deilio gyda'u sefyllfa unigol mewn modd clyfar, mewn byd patriarchaidd gwrywaidd.[7] Mae eraill yn dweud fod y ffenomen kogal yn gweld bai ar y cyfryngau am greu ffetis allan o wisg ysgol yn hytrach na beio’r rhai sydd yn eu gwisgo.[8]
Dechreuodd ffasiwn Japan rannu yn ôl oedran yn y 1970au gydag ymddangosiad cylchgronau gyaru wedi'u hanelu at bobl ifanc yn eu harddegau. Mae Popteen, y cylchgrawn a ddarllenir amlaf, wedi bod yn cyhoeddi'n fisol ers 1980. Er bod ffasiwn brif ffrwd yn yr 1980au a'r 1990au cynnar yn pwysleisio arddull ferchetaidd a chiwt (kawaii), roedd cyhoeddiadau gyaru yn hyrwyddo a thueddiadau rhywiol. Cynhyrchwyd y prif gylchgronau gyaru, gan gynnwys Popteen, Street Jam a Happie Nuts, gan olygyddion a fu'n ymwneud yn flaenorol â chreu pornograffi.[8]