Eka Pada Koundinyasana II | |
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas cydbwyso |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Asana, neu osgo'r corff mewn ymarferiad ioga yw Koundinyasana (Sansgrit: कौण्डिन्यासन, IAST: kauṇḍinyāsana), neu Y Doethor Kaundinya, sy'n asana cydbwyso'r corff ar y dwylo mewn ioga modern ac fel ymarfer corff.
Enwir y ystum ar ôl Kaundinya (Sansgrit: कौण्डिन्य), saets Indiaidd, ac āsana (Sansgrit: आसन )sy'n golygu "osgo" neu "safle'r corff". Mae'r amrywiadau ar gyfer un a dwy goes yn cynnwys y geiriau Sansgrit am un (ek) neu ddwy (dvi), a pada (Sanskrit) sy'n golygu "troed".[1] [2]
Nid yw'r ystum yn cael ei ddisgrifio yn ioga hatha canoloesol. Mae'n ymddangos yn yr 20g ymhlith yr asanas a ddisgrifiwyd gan BKS Iyengar yn ei lyfr 1966 Light on Yoga,[1] a'r rhai a ddysgwyd gan Pattabhi Jois yn Mysore yn ei Ioga ashtanga vinyasa.[3] Roedd Iyengar a Jois yn ddisgyblion i Krishnamacharya.[4]
Mae gan Eka Pada Koundinyaasana un goes wedi'i hymestyn yn syth yn unol â'r corff.[5]"Eka Pada Koundinyasana I". Yoga Journal. Cyrchwyd 2 December 2012."Eka Pada Koundinyasana I". Yoga Journal. Retrieved 2 December 2012.</ref>
Yn Eka Pada Galavasana (Colomen ehedog) plygir un goes, ac mae'r droed wedi'i bachu dros y fraich gyferbyn, o dan y corff. Mae'r ystum llawn, Galavasana, yn croesi'r coesau mewn osgo Padmasana, un pen-glin wedi'i guddio rhwng y breichiau.[7][1]