Kristina Olsen | |
---|---|
Kristina Olsen yng Ngŵyl Tegeingl, 2012 | |
Ganwyd | 26 Mai 1957 San Francisco |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, canwr-gyfansoddwr |
Gwefan | http://www.kristinaolsen.net/ |
Cantores werin Americanaidd ydy Kristina Olsen (ganwyd ar 26 Mai 1957). Ganwyd yn San Francisco a magwyd yn ardal Haight-Asbury y ddinas. Mae hi'n byw yn Venice Beach, Los Angeles ond mae hi'n teithio'r byd fel cantores am efallai deg mis pob blwyddyn[1]
Mae hi'n chwarae gitâr (acwsteg neu drydanol) a dobro, ac yn achlysurol, sacsoffon, consertina, dwsmel a phiano.[2] Mae hi'n cydweithio yn aml (yn fyw ac ar recordiadau) efo Peter Grayling, sydd yn chwarae soddgrwth ac yn byw yn Awstralia.
(hunangofiant a chaneuon)[3]