Laila Shawa | |
---|---|
Ganwyd | 4 Ebrill 1940 ![]() Dinas Gaza ![]() |
Bu farw | 24 Hydref 2022 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, arlunydd ![]() |
Blodeuodd | 2020 ![]() |
Arddull | celf gyfoes, celf ffeministaidd ![]() |
Tad | Rashad al-Shawa ![]() |
Arlunydd Palesteinaidd yw Laila Shawa (Arabeg: ليلى الشوا; ganwyd Gaza, 1940; m. 24 Hydref 2022).
Disgrifiwyd ei gwaith fel adlewyrchiad personol yn ymwneud â gwleidyddiaeth ei gwlad, gan dynnu sylw yn benodol at anghyfiawnderau ac erledigaeth ei phobl. Mae hi'n un o artistiaid amlycaf a mwyaf toreithiog y sîn celf gyfoes chwyldroadol Arabaidd.[1]
Fel Palesteiniad yn byw yn Llain Gaza dros gyfnod ei phlentyndod, mae'n ferch i Rashad al-Shawa, actifydd a maer Gaza 1971-82; meddylfryd chwyldroadol ei thad a'i hanogodd, pan oedd yn ifanc. Yn aml mae ei gwaith celf, sy'n cynnwys paentiadau, cerfluniau a gosodiadau, yn gweithio gyda ffotograffau sy'n sylfaen ar gyfer argraffu sgrin sidan. Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos yn rhyngwladol ac yn cael ei arddangos mewn llawer o fannau cyhoeddus gan gynnwys Yr Amgueddfa Brydeinig a chasgliadau preifat.[2][3][4]
Ganwyd Laila Shawa yn Gaza ym 1940, wyth mlynedd cyn y Nakba Palestesteinaidd a sefydlu Gwladwriaeth Israel. Addysgwyd Shawa yn ysgol breswyl Sefydliad Celf Leonardo da Vinvi yn Cairo rhwng 1957 a 58, yna aeth i Academi y Celfyddydau Cain yn Rhufain rhwng 1958 a 64, tra hefyd yn astudio yn ystod yr hafau yn 'Ysgol y Gweledol' yn Salzburg, Awstria.[5]
Ym 1965, ar ôl gorffen ei haddysg, dychwelodd Laila Shawa i Gaza a chyfarwyddo dosbarthiadau celf a chrefft mewn sawl gwersyll ffoaduriaid. Yna parhaodd i ddysgu dosbarth celf am flwyddyn gyda rhaglen addysg UNESCO.[1] Symudodd i Beirut, Libanus ym 1967 am gyfanswm o naw mlynedd lle roedd yn arlunydd amser llawn. Ar ôl i Ryfel Cartref Libanus ddechrau, dychwelodd i Gaza a gyda chymorth ei thad a'i gŵr, sefydlodd Shawa Ganolfan Ddiwylliannol Rashad Shawa.[6] Yn anffodus, nid yw'r ganolfan yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer yr hyn a fwriadwyd, fel cysylltiad diwylliannol â Gaza trwy arddangosfeydd.