Enghraifft o'r canlynol | cylchgrawn |
---|---|
Rhan o | Chimurenga Library |
Iaith | Ffrangeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1966 |
Dechrau/Sefydlu | 1966 |
Dechreuwyd | 1966 |
Daeth i ben | 1988 |
Gwefan | http://www.chimurengalibrary.co.za/periodicals.php?id=20 |
Cylchgrawn misol avant-guard Morocaidd yn yr iaith Ffrangeg oedd Lamalif, a gyhoeddwyd o 1966 hyd 1988. Bu'n llwyfan adnabyddus i feirniaid adain chwith régime llym y brenin Hassan II yn y 1970au a dechrau'r 1980au ac yn gyfrwng i drafod sawl agwedd ar ddiwylliant a hanes Moroco.
Sefydlwyd y cylchgrawn ym Mawrth 1966 gan y newyddiadurwraig ac awdures Zakya Daoud a'i gŵr gyda dim ond 20,000 Dirham o gyfalal. Y bwriad oedd rhoi gobaith i'r adain chwith am newid cyfeiriad yng ngwleidyddiaeth a chymdeithas Moroco. Daeth Lamalif yn gylchgrawn ymenyddol llwyddiannus a dylanwadol, y tu hwnt i'r disgwyl, gyda chylchrediad o 12,000, gyda nifer o gyfranwyr. Llwyddodd Lamalif i oroesi'r cyfnod o gyfnyngu llym ar ryddid barn yn y 1970au. Roedd yn barod i feirniadu pawb a phopeth: y pleidiau gwleidyddol, yr undebau llafur, y dosbarth canol, y frenhiniaeth a hyd yn oed y chwith ei hun. Cafwyd erthyglau am hanes Moroco hefyd, i gyd o safbwynt gwleidyddol blaengar a rhyddfrydol. Roedd erthyglau niferus am ddiwylliant Moroco hefyd, yn cynnwys byd ffilm Moroco.
Cafodd y cylchgrawn ei fygythu a'i sensro sawl gwaith. Er gwaethaf ei ddylanwad a'i boblogrwydd, nid oedd sôn am Lamalif yn y cyfryngau swyddogol a'r rhai a sensorwyd. O'r diwedd, caewyd y cylchgrawn yn 1988 pan wrthododd y golgyddion ildio i ofynion yr awdurdodau ac am gyfnod disgrifwyd y prif olygydd Zakya Daoud fel "gelyn cyhoeddus".