Larin Paraske | |
---|---|
Ganwyd | 27 Rhagfyr 1832 (yn y Calendr Iwliaidd) Lembolovo, Q16707549 |
Bu farw | 3 Ionawr 1904 Zaporozhskoye, Keksgolmsky Uyezd |
Dinasyddiaeth | Rwsia |
Galwedigaeth | bardd, canwr, llenor, runo singer, cyfarwydd, burlak |
Awdures o Ymerodraeth Rwsia oedd Larin Paraske (27 Rhagfyr 1833 - 3 Ionawr 1904) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur, bardd a canwr
Roedd Larin Paraske yn fardd llafar ac fe'i hystyrir yn ffigwr allweddol ym myd barddoniaeth werin y Ffindir. Paraskeva Nikitina oedd ei henw swyddogol Rwsaidd ac fe'i ganed yn Lempaala, Gogledd Ingria. Roedd ei thad, Mikitta Mikitanpoika (1802-1851) yn werinwr heb dir a oedd yn rhentu ei fferm ac ye oedd o, fel mam Paraske, yn dod o gefndir ethnig Izhoraidd. Yn 1853 priododd Paraske gyda gwerinwr a oedd ugain mlynedd yn hŷn na hi o'r enw Kaurila Teppananpoike (neu Gavril Stepanov) o bentref Vasketa yn Sakkola. Cawsant naw o blant rhwng 1855 ac 1878 ond dim ond tri ohonynt wnaeth oroesi i fod yn oedolion. Bu hefyd yn gofalu am 50 o blant amddifad o St Petersburg. Roedd ei gŵr yn ddyn gwael ar hyd ei oes a bu farw yntau yn 1888. Aeth a'i gwaith fel bardd â hi i ddinas Porvoo am gyfnod, ond yna dychwelodd i Vaskela, Sakkola yn 1894 ac er gwaethaf ei llwyddiant fel bardd, parhaodd i fod yn dlawd a bu'n rhaid gwerthu ei thŷ yn ystod haf 1899 oherwydd dyledion treth. Dyfarnwyd pensiwn artist iddi gan Gymdeithas Lenyddol y Ffindir yn 1901, ond ni fu modd iddi oresgwyn ei phroblemau ariannol a bu farw'n ddiymgeledd yn Sakkola yn 1904.[1]
Gallai Paraske adrodd dros 3200 llinell o farddoniaeth ar ei chof. Cafodd ei cherddi ei chofnodi gan Adolf Neovius yn yr 1880au, ac wedi nifer o flwynyddoedd o waith cofnodwyd 1200 o gerddi, 1750 o ddiarhebion a 336 o rigymau, ynghyd â nifer o alarnadau (itkuvirsi) a berfformiwyd trwy wylo ac igian. Yn 1891 teithiodd Paraske i Porvoo gyda Neovius er mwyn cwblhau eu prosiect. Yn y tair blynedd a ddilynodd rhoddod nifer o berfformiadau yn Porvoo a Helsinki a chynyddodd ei phoblogrwydd yn ystod y cyfnod hwn. Roedd Noevius wedi adnabod ei thalent a thalai un rwble yr awr iddi am ganu ei cherddi. Ymysg y rhai arferiai wrando'n gyson ar ei gwaith roedd nifer o artistiaid cenedlaetholgar rhamantaidd megis Jean Sibelius fu'n chwilio am ysbrydoliaeth o'i dehongliad hi o'r Kalevala, cerdd epig o lên gwerin Ffinnaidd gan Elias Lönnrot.[2]