Larisa Rubalskaya | |
---|---|
Llais | Larisa Rubal'skaya voice.oga |
Ganwyd | Лариса Алексеевна Рубальская 24 Medi 1945 Moscfa |
Dinasyddiaeth | Rwsia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, awdur geiriau, cyfansoddwr caneuon, bardd, cyfieithydd, addysgwr, cyflwynydd teledu, canwr |
Arddull | telyneg |
Gwobr/au | Gwobr Olympia, Silver Play Button, Q110935179 |
Awdur o Rwsia yw Larisa Rubalskaya (Rwsieg: Лариса Алексеевна Рубальская; ganwyd 24 Medi 1945) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfansoddwr caneuon, bardd a chyfieithydd. Mae hefyd yn aelod blaenllaw o undeb Awduron Rwsia.[1][2]
Fe'i ganed yn Moscfa ar 24 Medi 1945. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Pedagogaidd y Wladwriaeth, Moscfa.[3]
Atgofion oedd y gân gyntaf iddi ei hysgrifennu, a hynny ar y cyd gyda Vladimir Migulya. Yn 1991 a 1993, arweiniodd Larissa Rubalskaya 'nosweithiau creadigol' yn Theatr yr Amrywiaeth; yn 1995 cynhaliodd noson lle perfformiodd cerdd o'i gwaith.
Mae Larisa Rubalskaya wedi cydweithredu â'r cyfansoddwyr David Tukhmanov, Vyacheslav Dobrynin, Aleksandr Klevitsky, Arkady Ukupnik, Mark Minkov, ac eraill. Cymerodd ran mewn sawl sioe deledu ("Pob lwc", "Pwnc", "Dangos ffeiliau", "Post Boreol", ac "I'r Ffin").