Laura Muir | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mai 1993 Inverness |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd |
Taldra | 1.63 metr |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Mae Laura Muir (ganwyd 9 Mai 1993) yn rhedwr pellter canol a phellter o'r Alban.[1] Enillodd fedal arian yng Gemau Olympaidd Tokyo yn y 1500 metr yn 2021.[2]
Cafodd Muir ei geni yn Inverness. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Kinross ac ym Mhrifysgol Glasgow, lle hyfforddodd i fod yn filfeddyg. Roedd hi'n seithfed yn y digwyddiad 1500 metr yng Ngemau Olympaidd Rio 2016. Enillodd Muir ddwy fedal ym Mhencampwriaeth Dan Do'r Byd 2018 ddwywaith, medal arian yn y 1500m ac efydd ar 3000m. Hi oedd pencampwr 1500m Ewrop yn 2018, a phencampwr Dan Do Ewrop 2017 yn y dwbl 1500m / 3000m.
Enillodd Muir y fedal efydd yn y ras 1500m ym Mhencampaith y Byd 2022 yn yr UDA.[3]