Laviai Nielsen | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 13 Mawrth 1996 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd ![]() |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig ![]() |
Athletwraig o Loegr sy'n arbenigo yn y 400 metr yw Laviai Nielsen (ganwyd 13 Mawrth 1996 [1]). Enillodd sawl medal fel aelod o dimau ras gyfnewid 4x400 metr Prydain Fawr: medal arian ym Mhencampwriaethau’r Byd 2017 ym 4 x 400 metr y merched; medal arian Mhencampwriaethau’r Byd 2023 yn y 4 x 400 metr cymysg, a medal efydd ym Mhencampwriaethau’r Byd 2023 yn y 4 x 400 metr i fenywod ym Mhencampwriaethau'r Byd 2023.[2]
Cafodd ei geni yn Leytonstone, Llundain, fel un o efeilliaid.[3]
Ym mis Awst 2022, datgelodd Laviai ei bod wedi cael diagnosis o sclerosis lluosog yn ystod haf 2021. Roedd ei hefaill, Lina, wedi datgelu ei bod yn dioddef o’r un cyflwr bythefnos ynghynt, ar ôl cael yr un diagnosis yn 2013.[4]
Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2024, roedd hi'n aelod o'r tîm GB a ddaeth yn drydydd yn y ras gyfnewid Cymysg 4 × 400 metr, gan ennill medal efydd.[5]