![]() | |
Math | pentrefan ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanfihangel-y-pwll a Lecwydd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.461°N 3.214°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jane Hutt (Llafur) |
AS/au | Alun Cairns (Ceidwadwr) |
![]() | |
Pentref yng nghymuned Llanfihangel-y-pwll a Lecwydd, Bro Morgannwg, Cymru, yw Lecwydd[1] (Saesneg: Leckwith).[2]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Alun Cairns (Ceidwadwr).[3][4]
Credir bod yr enw yn deillio o ffurf fer ar yr enw personol Helygwydd (ar Helygwydd/Helycwydd cymharer Tegwyn/Tecwyn). Ni wyddys pwy oedd Helygwydd, ond gall mai sant o Gymro ydoedd. Ystyr yr enw fyddai '[man sy'n eiddo i] Helygwydd'.[5]
Gwelir weithiau y ffurfiau Llechwydd a Llechwedd mewn ffynonellau Cymraeg o'r 19g. Honnid bod yr enw Llechwedd yn cyfeirio at y llethr serth sy'n codi o lan orllewinol afon Elái ym mhlwyf Lecwydd, ac mai ffurf ar Llechwedd oedd Lecwydd.[6] Ond nid oes modd olrhain cyswllt ieithyddol rhwng Lecwydd a llechwedd ac mae'n debyg fod y ffurf Llechwedd yn enghraifft o darddiad gwerin.[7] Er hynny, mae'r esboniad hwn yn dal i'w weld mewn rhai mannau.[8]