Lee Byrne | |
---|---|
Ganwyd | 1 Mehefin 1980 Pen-y-bont ar Ogwr |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r gynghrair, chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 191 centimetr |
Pwysau | 96 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, ASM Clermont Auvergne, Y Dreigiau, Y Scarlets, Y Gweilch, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
Safle | Cefnwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Chwaraewr Rygbi'r Undeb dîm rhanbarthol y Gweilch a Chymru yw Lee Byrne (ganed 1 Mehefin 1980. Mae'n chwarae fel cefnwr, ac wedi ennill 16 cap dros Gymru.
Ganed ef yng Mhen-y-bont ar Ogwr. Bu'n chwarae i dîm rhanbarthol Scarlets Llanelli cyn symud i'r Gweilch.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn Nhachwedd 2005, yn erbyn Seland Newydd yn Stadiwm y Mileniwm. Roedd yn rhan o dîm Cymru pan enillwyd y Gamp Lawn yn 2008, gan chwarae ymhob gêm a sgorio cais yn erbyn Lloegr a'r Eidal.