Enghraifft o: | Lleng Rufeinig |
---|---|
Lleoliad | Germania Inferior |
Pennaeth y sefydliad | Q124285895 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Lleng Rufeinig oedd Legio XXX Ulpia Victrix ("Lleng fuddugol yr Ulpiaid"). Fe'i ffurfiwyd gan yr ymerawdwr Trajan yn 105 O.C.. Ulpia oedd enw teuluol (gens) yr ymerawdwr.
Ffurfiodd Trajan y lleng yma a Legio II Traiana Fortis yn 105 ar gyfer ei ryfeloedd yn erbyn y Daciaid. Bu'n ymladd eto yn erbyn y Daciaid wedi 117, ac apwyntiodd yr ymerawdwr Hadrian ei gyfaill Quintus Marcius Turbo yn legad y lleng. Tua 120, cofnodir fod rhan o'r lleng yn Ulpia Noviomagus Batavorum (Nijmegen heddiw). Yn 122, wedi i'r lleng VI Victrix gael ei symud o Germania o Brydain, symudwyd XXX Ulpia Victrix i Colonia Ulpia Traiana (Xanten heddiw) yn nhalaith Germania Inferior.
Yn ystod rhyfeloedd cartref 193 - 197, cefnogodd y lleng Septimius Severus, a roddodd y teitl Pia Fidelis oddi. Yn 235 ymladdodd yn erbyn y Persiaid dan Severus Alexander. Yn 310, fe'i symudwyd i Tricensimae. Mae'n debyg i'r lleng ddod i ben yn 407, pan dorrodd y llwythau Almaenig trwy'r ffin.