Math | bwrdeistref Sbaen |
---|---|
Prifddinas | Lemoiz |
Poblogaeth | 1,318 |
Pennaeth llywodraeth | Unai Andraka Casimiro |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Basgeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Q107556240 |
Lleoliad | Mungialdea |
Sir | Uribe-Kosta |
Gwlad | Gwlad y Basg Sbaen |
Arwynebedd | 18.9 km² |
Uwch y môr | 89 metr |
Gerllaw | Môr Cantabria |
Yn ffinio gyda | Gorliz, Plentzia, Gatika, Maruri-Jatabe, Bakio |
Cyfesurynnau | 43.4114°N 2.9023°W |
Cod post | 48620 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Lemoiz |
Pennaeth y Llywodraeth | Unai Andraka Casimiro |
Mae Lemoiz yn dref ar arfordir Bizkaia, yn ardal Uribe Kosta. Yn 2016 roedd ganddi boblogaeth o 1,244. Mae bwrdeistref Lemoiz yn cynnwys tair cymdogaeth, gydag Urizar yn bencadlys. Yn ystod y 1970, bwriadwyd codi atomfa yno.
Lleolir Lemoiz ar arfordir Bizkaia, yn ardal Uribe-Kosta. I'r gogledd, ceir Bae Bizkaia; i'r gorllewin, Gorliz a Plentzia; i'r de, Gatika; i'r de-ddwyrain, Jatabe; ac i'r gogledd-ddwyrain, Bakio. Cyfanswm arwynebedd y fwrdeistref yw 18.9 km² ers ychwanegu ardal Basorda (13.8 km² oedd yr arwynebedd cyn hynny).
Mae Lemoiz 26 km i'r gogledd o Bilbo. Yn agosach ceir trefi Mungia 9.5 km i'r de-ddwyrain, a Gorliz, y dref agosaf, 3.5 km i ffwrdd.
Nodweddir yr ardal gan ddyffryn nant Andraka, sy'n tarddu yn ne'r pentref ac yn rhedeg tua'r môr yn y gogledd. Ar bob ochr i'r dyffryn mae bryniau dros 200 metr. Mae gweddill y tir yn fryniog. Y copa uchaf yn y fwrdeistref yw bryn Urizar, 290 metr o uchder. Mae'r arfordir yn llawn clogwyni a thraethau. Copa nodedig arall yw Ermua (289 m), wedi'i leoli ar yr arfordir.
Mae'r tair ardal hanesyddol i'r fwrdeistref, sef pen, canol a gwaelod nant Andraka. Y mwyaf deheuol a'r uchaf yw cymdogaeth Andraka, wrth ymyl tarddle'r nant o'r un enw. Yn y canol, mae cymdogaeth Urizar, lle mae neuadd y dref. Yn olaf, mae Armintza wedi'i leoli ar yr arfordir, ger aber Andraka.
Gweler Atomfa Lemoiz
Yn Lemoiz[4] siaredir Basgeg Uribe Kosta[5], sef amrywiad o'r dafodiaith orllewinol.