Les Barker | |
---|---|
Les Barker yng Ngŵyl Ely 2010. | |
Ganwyd | 30 Ionawr 1947 Manceinion |
Bu farw | 14 Ionawr 2023 Croesoswallt |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | bardd |
Bardd Saesneg-Cymraeg a chyfansoddwr caneuon oedd Les Barker (30 Ionawr 1947 – 15 Ionawr 2023).[1] Roedd yn adnabyddus am ei farddoniaeth ddigri a'i barodïau o ganeuon poblogaidd, er ei fod hefyd wedi cynhyrchu llawer o waith dwys a difrifol.[2]
Yn wreiddiol o Fanceinion fe astudiodd i fod yn gyfrifydd cyn darganfod ei ddawn lenyddol. I ddechrau roedd yn mynd o gwmpas lleoliadau cerddoriaeth werin ac yn perfformio ar ei ben ei hun, ac yna ffurfiodd The Mrs Ackroyd Band (a enwyd ar ôl ei frithgi, Mrs Ackroyd).
Yn ogystal a pherfformio yng ngwledydd Prydain, teithiodd i berfformio yn Hong Kong, Awstralia, Seland Newydd, Unol Daleithiau America a Chanada.
Cyhoeddodd 78 cyfrol o farddoniaeth Saesneg a 24 o albymau (un ai fel perfformiwr unigol neu gyda'i fand).
Yn y 2000au symudodd i fyw i Wrecsam, ac aeth ati i ddysgu Cymraeg. Aeth ymlaen i farddoni'n Gymraeg, yn cystadlu mewn eisteddfodau a chyhoeddi cyfieithiad Saesneg o waith Daniel Owen.[3][4] Daeth yn aelod o dîm Talwrn y Beirdd Tegeingl.
Ers 2012 bu'n gyfrannwr cyson ar y Wicipedia Cymraeg gan greu dros 2,200 o erthyglau newydd.[5]