Lewis Bayly | |
---|---|
Clawr The Practice of Piety (1611) | |
Ganwyd | 1565 Caerfyrddin |
Bu farw | 26 Hydref 1631 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad, athronydd, llenor, diwinydd |
Swydd | esgob |
Priod | Anne Bagenal |
Plant | Nicholas Bayly |
Clerigwr ac awdur o Gymru oedd Lewis Bayly neu Lewis Bayley (bu farw 26 Hydref 1631).[1][2] Roedd yn Esgob Bangor o 1616 hyd 1631.
Nid oes sicrwydd ymhle y cafodd ei eni; efallai Caerfyrddin yn ôl Y Bywgraffiadur Cymreig.[3] Graddiodd o Goleg Exeter, Rhydychen, a daeth yn ficer Shipton-on-Stour, Swydd Gaerwrangon yn 1597, ac wedyn Evesham yn 1600, lle daeth hefyd yn brifathro'r ysgol ramadeg. Apwyntiwyd ef yn Esgob Bangor yn 1616.
Roedd yn gyfaill mawr i Syr John Wynn o Wydir, er iddynt ffraeo ar y dechrau pan geisiodd Bayly gyfyngu dylanwad yr uchelwr pwerus.
Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur The Practice of Piety (1611), llyfr defosiynol hynod o boblogaidd a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Rowland Vaughan o Gaergai fel Yr Ymarfer o Dduwioldeb yn 1630. Rhoddodd gefnogaeth i gyhoeddi Geiriadur John Davies, Mallwyd (1632).
Etifeddodd ei ŵyr Henry Bayly (1744-1812) ystâd Plas Newydd, Môn.
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |